
Mae’r gwaith o gyflwyno bagiau ailgylchu amldro bellach wedi’i gwblhau ar draws pob cartref yn Sir Fynwy!
Ni allwn dderbyn ailgylchu sydd wedi’i gynnwys mewn bagiau plastig untro mwyach. Mae’n bwysig iawn mai dim ond eitemau y gallwn eu hailgylchu y byddwch yn eu cynnwys…mae plastigau, er enghraifft, yn gallu bod yn ddryslyd!!!
Felly, pa eitemau all fynd i’r bagiau ailgylchu coch a phorffor?
Lawrlwythwch ein taflen yn esbonio Beth sy’n mynd ym mha fag.
Yn y bag coch, gallwch ailgylchu:
- Papur
- Cardbord
- Post sothach gan gynnwys amlenni
- Papurau newydd a chylchgronau
- Cyfeiriaduron ffôn a chatalogau
Yn y bag porffor, gallwch ailgylchu:
- Caniau bwyd a diod
- Poteli plastig
- Pecynnau plastig / hambyrddau prydau parod
- Potiau iogwrt (rinsiwch os gwelwch yn dda)
- Tybiau margarîn
- Erosolau (rhaid bod yn wag)
- Ffoil alwminiwm / ffoil cegin
- Cartonau diod, ee sudd oren ac ati
Ni allwn ailgylchu ‘plastigau meddal’ ar hyn o bryd: pecynnau creision, bagiau plastig, cling film a pholystyren.
Gallwch ailgylchu rhai o’r eitemau hyn mewn mannau casglu arbenigol ledled y Sir. I ddarganfod ble mae’r rhain, ewch i WalesRecycles. Fel arall, os dymunwch eu cynnwys yn eich casgliadau ymyl y ffordd, rhaid iddynt fynd yn eich bagiau du i gasglu sbwriel cartref.
Eitemau trydanol, batris, teclynnau fepio ac e-sigaréts
Peidiwch â rhoi unrhyw eitemau trydanol, teclynnau fepio na batris yn eich casgliad ailgylchu. Gall batris Lithiwm-Ion fel y’u ceir mewn ffonau symudol, gliniaduron a theclynnau fepio achosi tanau yn ein cerbydau a phan gânt eu hanfon i’r cyfleuster gwaredu gwastraff. Mae’n hollbwysig cael gwared ar yr eitemau hyn yn briodol:
Batris: Dylai pob safle sy’n gwerthu teclynnau fepio fynd â nhw yn ôl i’w gwaredu’n ddiogel neu gallwch fynd â nhw i’ch Canolfan Ailgylchu leol.
Eitemau trydanol a ffonau: Ailgylchwch y rhain yn eich canolfan Ailgylchu leol.
Teclynnau fepio: Dylai pob safle sy’n gwerthu e-sigaréts a/neu declynnau fepio dderbyn nhw yn ôl i gael gwared arnynt yn ddiogel. Gallwch hefyd fynd â nhw i’ch Canolfan Ailgylchu leol.
Ble alla i gael bag newydd?
Os bydd eich bag yn mynd ar goll neu’n torri, gallwch godi un arall o’ch Hyb Cymunedol Lleol.
Darperir bagiau coch a phorffor ar gyfer ailgylchu ymyl y ffordd trigolion Sir Fynwy yn unig. Maent yn gostus ac ni ddylid eu defnyddio at unrhyw ddiben arall.
Diffyg casglu bagiau…
Os yw eich bagiau ailgylchu yn cynnwys eitemau nad ydynt yn cael eu derbyn i’w hailgylchu, bydd ein criwiau yn ei adael ac yn rhoi sticer ar eich bag. Bydd y sticer hwn yn rhoi’r rheswm nad yw wedi’i gasglu, cymerwch sylw a chywirwch y mater mewn pryd ar gyfer eich casgliad nesaf.
Os ydym wedi methu casglu eich bag, heb osod sticeri ar y bag, a bod yr holl eitemau’n cael eu derbyn fel rhan o’n casgliad ailgylchu, rhowch wybod am gasgliad a fethwyd drwy Fy Sir Fynwy (My Monmoutshire).
Pryd mae fy niwrnod casglu?
I ble mae’ch ailgylchu’n mynd?
Ar gyfartaledd anfonwn 10,000 tunnell fetrig y flwyddyn o ddeunydd bagiau coch a phorffor i Gyfleusterau Ailgylchu Deunyddiau o gasgliadau ochr y stryd. Caiff y deunyddiau eu didoli gan systemau awtomatig a llaw, cyn i’w hansawdd gael ei wirio i sicrhau nwydd manyleb uchel, safonedig at ailbrosesyddion arbenigol a gymeradwywyd i’w troi yn gynnyrch newydd. Nid yw’r fanyleb yn newid yn ôl y farchnad olaf a chaiff yr holl ddeunydd ei brosesu i safon Ewropeaidd e.e. EN643 ar gyfer graddau papur a adenillwyd, cyn penderfynu ar y farchnad olaf. Mae’r deunyddiau a ddidolir yn nwydd a werthir yn ddomestig ac ar draws y byd i farchnadoedd allforio. Mae EN463 yn caniatáu hyd at 1.49% o halogiad fesul llwyth, fel arfer hyn bydd hyn yn ffenestri plastig mewn amlenni, dalenni plastig mewn cylchgronau ac yn y blaen.
Mae’r ailbrosesydd yn tybio fod tua 9% o’r deunyddiau wedi eu halogi a chânt ei hanfon i safle Ynni o Wastraff yn y Deyrnas Unedig (900 tunnell fetrig y flwyddyn).
Caiff tua 25% o ddeunyddiau eu hallforio’n uniongyrchol i wledydd tramor fel nwydd byd-eang. Mae gan Prydain hanes hir o allforio deunydd ar draws y byd e.e. glo, llechi a dur o Gymru.
Caiff tua 65% o ddeunyddiau eu hailbrosesu ym Mhrydain.
Mae cwmnïau o Malaysia, Indonesia a rhannau eraill o dde ddwyrain Asia yn prynu’r belau o ddeunydd wedi eu didoli ar gyfer eu prosesu ymlaen. Daw’r deunydd pacio a ddefnyddir ar gyfer mwyafrif helaeth y nwyddau a brynir ym Mhrydain o’r ailbrosesyddion hyn. Caiff y belau eu didoli i safonau Ewropeaidd ond mae peth halogiad yn anochel mewn proses ddidoli awtomatig sy’n dibynnu ar gyfranogiad torfol y cyhoedd. Os yw’r cwmnïau hyn yn cael gwared â deunydd yn anghywir dibynnwn ar asiantaethau amgylcheddol yn y gwledydd hyn i fonitro ac erlyn pan fo angen. Mae’r deunydd a anfonir yn nwydd a gaiff ei ddidoli ym Mhrydain cyn cael ei brynu gan y marchnadoedd allforio.
Mae mwy o wybodaeth ar lle aiff eich ailgylchu ar Fy Ailgylchu Cymru.