Yn Sir Fynwy gellir rhoi eich poteli a jariau gwydr yn eich blwch ailgylchu gwyrdd.
Caiff blychau ailgylchu gwydr eu gwagio bob bythefnos. Ar gyfer y rhan fwyaf o gartrefi, caiff y blychau gwydr eu casglu yr un pryd â’ch sbwriel, gan fod gan ein cerbydau casglu adran ar wahân ar gyfer gwydr.
Gall bin cymunol neu ddaliedydd llai fod yn ei le ar gyfer rhai preswylwyr sy’n byw mewn fflatiau a thai gwarchod. Caiff gwydr preswylwyr mewn ardaloedd gwledig eu casglu mewn cerbydau llai a all deithio’n rhwydd yn y ffyrdd gwledig.
Gellir darparu blychau gyda dolenni ar gyfer hwylustod cario ar gyfer preswylwyr oedrannus ac anabl.
Mae casglu gwydr ar wahân mewn blychau yn gwella ansawdd a gwerth yr holl ailgylchu yn y sir.
Aiff gwydr Sir Fynwy i safle ailbrosesu yng Nghwmbrân lle caiff ei ddidoli a’i anfon i gael ei ailgylchu yn boteli gwydr newydd, gwydr ffibr a chynnyrch concrit.
Ni fedrwn bellach gasglu bagiau porffor sy’n cynnwys gwydr.
Cysylltwch â ni os ydych angen blwch ailgylchu gwydr: e-bost – contact@monmouthshire.gov.uk
ffôn: 01633 644644 neu ymweld â’ch hyb cymunedol lleol.
Darllenwch y cwestiynau cyffredin drwy’r ddolen isod i gael mwy o wybodaeth: