Skip to Main Content

Pryd mae fy nydd casglu?

Ymwelwch â Fy Sir Fynwy i ddarganfod pryd bydd eich gwastraff a'ch ailgylchu'n cael eu casglu.

Gosodwch eich ailgylchu a’ch gwastraff mas cyn 7yb, os gwelwch yn dda.


Bydd bagiau gwastraff bwyd yn parhau’n rhad ac am ddim i breswylwyr Sir Fynwy – Darllenwch Fwy


Ydy’r rhai sydd dan amheuaeth arferol yn cael eu cloi yn eich cadi bwyd? Gwyliwch y fideo yma

Mae biniau glas a chistiau llwyd ychwanegol ar gael i’w casglu o’ch Hyb Cymunedol lleol.

Lawrlwythwch ein taflen sy’n esbonio Beth sy’n mynd ym mha fag.

Rydym yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff bwyd wythnosol am fwyd sydd wedi a heb ei goginio o ochr y ffordd.

Dylech chi ddodi eich bin gwastraff bwyd wrth ochr y ffordd cyn 7yb ar fore’ch casgliad.

Sut i ddefnyddio’r gwasanaeth gwastraff bwyd

Leiniwch eich cist gegin lwyd gydag un o’n bagiau gwastraff bwyd penodol.

Fel arall, gallwch chi nawr ddodi bagiau plastig bach megis bagiau bara neu fagiau bwyd sydd wedi rhewi yn eich cist. Darganfyddwch mwy yma: Cwestiynau Cyffredin

Pan fydd y bag yn llawn, dodwch y bag gwastraff bwyd yn y bin gwastraff bwyd glas yn barod i’w gasglu.

Mae bagiau gwastraff bwyd penodol, cistiau cegin llwyd a biniau gwastraff bwyd glas ar gael o’ch Hyb Cymunedol lleol.

 Peidiwch â rhoi hylifau neu fraster hylif yn y casgliad hwn, os gwelwch yn dda.

A allaf roi gwastraff bwyd yn fy mag gwastraff gardd?

Dim gwastraff cegin yn anffodus, mae’n rhaid rhoi gwastraff bwyd i gyd gan gynnwys creifion yn eich bocs gwastraff bwyd ac nid yn y bag gwastraff cegin. Mae hyn yn bwysig iawn gan fydd bwyd yn cael ei gasglu ar wahân i wastraff gardd. Mae gwastraff bwyd yn awr yn cael ei ddanfon i gyfleuster treulio anaerobig ar wahân. Bydd gwastraff gardd yn cael ei gompostio’n lleol ac felly ni ddylai gynnwys unrhyw wastraff bwyd cegin. Fel arall gellir compostio gwastraff bwyd gartref.

Beth sy’n digwydd i’r deunydd?

Yn ôl deddfwriaeth Llywodraeth Cymru mae nawr angen i ni gasglu gwastraff bwyd a gardd ar wahân. Bydd y gwastraff bwyd yn mynd i gael ei dreulio’n anaerobig ym Mhen-y-bont, sy’n creu trydan a gwrtaith pridd. Bydd gwastraff gardd yn cael ei ddanfon i gael ei gompostio’n lleol mewn cyfleuster yn Y Fenni. Darganfyddwch mwy am sut y mae gwastraff bwyd yn creu trydan.

‘Caru Bwyd Casáu Gwastraff’

Am awgrymiadau defnyddiol ynglŷn â sut i ddefnyddio’ch gweddillion bwyd mewn ryseitiau blasus a chyngor arbed arian arall ymwelwch â http://wales.lovefoodhatewaste.com/.

Compostio cartref

Mae compostio cartref yn opsiwn cyfeillgar i’r amgylchedd ar gyfer eich gwastraff gardd. Gallwch brynu bin compost o’ch canolfan arddio leol. Edrychwch ar Ailgylchu dros Gymru i gael mwy o wybodaeth am sut i gompostio yn eich cartref, yn cynnwys fideo canllaw i ddechreuwyr.