Pam fod yn rhaid i ni wahanu ein gwydr i flwch ailgylchu?
Mae cadw’r gwydr allan o’r bagiau ailgylchu yn sicrhau ein bod yn cael ailgylchu ansawdd gwell. Mae’n rhwyddach ailgylchu deunyddiau a gaiff eu casglu ar wahân ac maent yn fwy gwerthfawr i ailbroseswyr. Gellir eu hailgylchu yn gynnyrch gwerth uchel pan mae ein deunyddiau ailgylchu o ansawdd da a glân.
A yw’n rhaid i mi dalu am fy mlwch?
Na, bydd pob preswylydd yn cael cynhwysydd am ddim ar gyfer eu gwydr.
Pa fathau o wydr y gallaf eu rhoi yn y blwch ailgylchu?
Gallwn casglu pob math o boteli a jariau gwydr. Ni allwn gasglu unrhyw wydr llen o ffenestri neu dai gwydr, Pyrex neu lestri, neu wydrau yfed (gellir ailgylchu yr holl ddeunyddiau hyn yn ein canolfannau ailgylchu).
A oes angen golchi cynwysyddion gwydr yn unig?
Oes os gwelwch yn dda, mae eu golchi’n gyntaf i gael gwared ag unrhyw wastraff hylif neu fwyd yn helpu ein criwiau casglu ac ailbroseswyr. Mae hefyd yn cadw eich blwch yn lân.
A oes angen tynnu’r caeadau oddi ar boteli a jariau?
Mae’n well ond nid yn hanfodol i dynnu’r caeadau. Gadewch y caeadau yn y blwch gwydr. Caiff y caeadau eu hailgylchu gyda’r gwydr.
Ble dylwn i roi gwydr wedi torri?
I osgoi anaf, dylid lapio gwydr wedi torri yn ofalus mewn papur a’i roi yn eich bag sbwriel.
Beth os yw potel wydr yn torri pan fyddaf yn llenwi fy mlwch?
Os yw gwydr yn torri pan fyddwch yn llenwi’r blwch, peidiwch pryderu a byddwn yn ei gasglu.
A allaf gael mwy nag un blwch ailgylchu?
Gallwch, os na allwch ymdopi gydag un blwch ac angen ail flwch ailgylchu anfonwch e-bost atom i contact@monmouthshire.gov.uk, ein ffonio ar 01633 644644 neu ymweld â’ch hyb cymunedol i archebu blwch i gael ei ddosbarthu i chi. Ni fydd hybiau cymunedol yn cadw blychau gan nad oes ganddynt le i’w storio.
A allaf gael caead ar gyfer y blwch?
Mae’n flin gennym, ond ni fedrwn roi caeadau ar gyfer y blychau gwydr. Fel arfer caiff caeadau/rhwydi eu rhoi ar gyfer blychau ailgylchu pan maent yn cynnwys deunyddiau a all gael eu chwythu ffwrdd neu ei difetha drwy wlychu.
A fydd fy mlwch yn llenwi gyda dŵr glaw?
Mae tyllau bach ym mhob cornel o’r blychau fel y gall dŵr glaw ddraenio mas. Gellir rhoi poteli a jariau eu pen i lawr/ar eu gwastad yn y blwch i’w rhwystro rhag llenwi gyda dŵr.
Mae’r blwch ailgylchu gwydr yn rhy fawr i mi ei gario.
Gallwn gynnig blwch llai gydag un handlen er mwyn hwylustod cario ar gyfer preswylwyr oedrannus neu anabl na all gario blwch ailgylchu gwydr.
Pam fod rhai preswylwyr wedi cael math gwahanol o flwch ailgylchu gwydr?
Gall preswylwyr sy’n byw mewn fflat neu safle tai gwarchod gael blwch ailgylchu gwydr llai gyda handlen (tebyg i flwch gwastraff bwyd). Gall rhai safleoedd tai gwarchod gael bin cymunol mwy yn benodol ar gyfer gwydr.
Beth sy’n digwydd i’r gwydr unwaith y cafodd ei gasglu?
Mae ein criw casglu yn mynd â’r cynwysyddion gwydr i’n gorsaf drosglwyddo yn Llan-ffwyst a Five Lanes a chânt eu cludo i ailbroseswr yng Nghwmbrân lle caiff y gwydr ei ddidoli ac wedyn ei ddefnyddio i wneud cynnyrch gwydr newydd ac insiwleiddio.
Beth am wydr o fy musnes?
Gall busnesau sydd wedi cofrestru gyda ni ar gyfer casglu bagiau ailgylchu masnachol coch a phorffor wneud cais am flychau ar gyfer gwydr.
A allaf ddal i roi gwydr yn fy magiau ailgylchu porffor?
Na, mae’n flin gennym ond ni fyddwn yn medru casglu bagiau ailgylchu sy’n cynnwys gwydr. Dywedwyd wrth ein criwiau am adael y bagiau hyn a rhoi sticeri iddynt yn esbonio’r rheswm pam.
Pam y cafodd sticer ei roi ar fy magiau?
Os rhoddwyd sticer ar eich bagiau, dylech dynnu’r gwydr neu eitemau eraill na ddylai fod ynddynt a byddwn yn casglu eich ailgylchu ar ôl ei ddidoli ar y cylch casglu nesaf.
O beth y cafodd y blwch ei wneud?
Cafodd y blwch ei wneud o ddeunydd plastig 75% ailgylch.
Faint mae’r blwch yn ei ddal?
Mae’r blwch yn dal 44 litr.