Mae’n rhaid i chi archebu slot ymlaen llaw cyn ymweld â chanolfan ailgylchu.
Ni chaniateir i chi fynd â gwastraff heb ei ddidoli i’r Ganolfan Ailgylchu. Gofynnir i breswylwyr sy’n dod â bagiau du i agor a didoli unrhyw eitemau y gellid eu hailgylchu. Gellir ailgylchu dros 50% o eitemau mewn bagiau du. Am ragor o wybodaeth gweler ein cwestiynau cyffredin.
RHEOLAU SAFLE
- Mae’n rhaid i chi archebu slot ar-lein cyn ymweld â’r Ganolfan Ailgylchu.
- Mae’r Canolfannau Ailgylchu ar gyfer preswylwyr Sir Fynwy yn unig.
- Ni ddylech ddod â gwastraff heb ei ddidoli i’r Ganolfan Ailgylchu. Gofynnir i breswylwyr sy’n dod â bagiau du i mewn i agor a didoli unrhyw eitemau y gellir eu hailgylchu.
- Rhaid i faniau ac ôl-gerbydau gofrestru ar gyfer slot gan ddefnyddio ffurflen gofrestru ar gyfer faniau ac ôl-gerbydau. Nid oes hawl gan ôl-gerbydau echel ddwbl neu faniau ‘tipper’ i fynd ar y safle. Ni chaniateir ôl-gerbydau sydd yn fwy na 6×4 troedfedd.
- Ni chaiff rhannau ceir neu gerbydau eu derbyn yn y ganolfan ailgylchu. Ni chânt eu dosbarthu fel gwastraff cartrefi a dylid mynd â nhw i gwmni chwalu cerbydau. Dim ond batris ceir gaiff eu derbyn.
- Cyn ymweld, mae’n rhaid i breswylwyr ddidoli eu gwastraff a’u hailgylchu yn briodol i leihau faint o amser y byddant ar y safle.
- Gellir ymweld â’r Ganolfan Ailgylchu unwaith yn unig yn ystod y slot sydd wedi’i gadw.
- Gofynnir i chi drin ein staff a chyd-breswylwyr gyda charedigrwydd a pharch.
Dod o hyd i Ganolfan Ailgylchu
Canolfan Ailgylchu Five Lanes
Chwarel Five Lanes, A48, Caerwent, NP26 5PD
Ar agor 8am i 4pm. Ar gau ar ddyddiau Mercher ac Iau.
Canolfan Ailgylchu Llan-ffwyst
Ffordd Blaenau’r Cymoedd, A465, mynediad drwy Heol Merthyr, Llan-ffwyst, y Fenni, NP7 9AQ.
Ar agor 8am i 4m. Ar gau ar ddyddiau Mawrth a Mercher.
Canolfan Ailgylchu Llanfihangel Troddi
Lleolir ger y B4293, Llanfihangel Troddi, Trefynwy, NP25 4HX
Ar agor 8am i 4pm. Ar gau ar ddyddiau Llun a Mawrth.
Cynllun safle Llanfihangel Troddi
Beth gaiff ei dderbyn yn y Canolfannau Ailgylchu
Ni chaniateir i chi fynd â gwastraff heb ei ddidoli i’r Ganolfan Ailgylchu. Gofynnir i breswylwyr sy’n dod â bagiau du i agor a didoli unrhyw eitemau y gellid eu hailgylchu. Gellir ailgylchu dros 50% o eitemau mewn bagiau du.
Cyfyngwyd gwastraff DIY i bump o fagiau neu lwyth cist car bach ym mhob ymweliad gyda dim mwy na dau ymweliad y mis.
Mae gwastraff DIY yn cyfeirio at ddeunyddiau yn deillio o waith graddfa bach yn eiddo y deiliad tŷ ei hun. Ar gyfer gwaith graddfa fawr, disgwylir i ddeiliaid tai ddefnyddio contractwr gwastraff preifat neu logi sgip.
Mae Asbestos yn wastraff peryglus a byddem yn argymell eich bod yn cysylltu â chontractwr arbenigol i ddelio’n ddiogel gydag unrhyw wastraff asbestos. Derbynnir symiau bach o Asbestos o gartrefi yng Nghanolfannau Five Lanes neu Llan-ffwyst. Darllenwch ein canllawiau i gael gwybodaeth am sut i gael gwared ag Asbestos.
Ni ellir mynd â’r eitemau dilynol i ganolfan ailgylchu Llanfihangel Troddi: Asbestos, cyfarpar cartref mawr (ffyrnau, peiriannau golchi llestri, peiriannau sychu taflu neu beiriannau golchi) a silindrau nwy. Gellir derbyn yr eitemau hyn yng nghanolfannau ailgylchu Five Lanes neu Llan-ffwyst.
Cliciwch yma i weld pa eitemau gaiff eu derbyn yn y Ganolfan Ailgylchu
Archebu ymweliad car i’r Ganolfan Ailgylchu
Y ffordd rwyddaf i drefnu ymweliad ar-lein yw drwy’r dolenni islaw.
Dim ond un slot y dydd y dylech ei archebu. Gellir ymweld â’r Ganolfan Ailgylchu unwaith yn unig yn ystod y slot sydd wedi’i gadw.
Dim faniau neu drelars.
Gofynnir i chi gyrraedd o fewn y slot amser 30-munud yr ydych wedi ei archebu a dod â’ch e-bost cadarnhau gyda chi (ar eich ffôn neu wedi ei argraffu) fel tystiolaeth.
Os na fedrwch archebu ar-lein gallwch ein ffonio ar 01633 644644, nodwch y cyfeirnod archebu a gewch a dod ag ef gyda chi i’r safle. Mae’n rhaid i chi fewngofnodi i Fy Sir Fynwy. Os nad oes gennych gyfrif, bydd angen i chi greu un.
Archebu ymweliad fan neu drelar i’r Ganolfan Ailgylchu
Mae’r safleoedd yn caniatáu nifer gyfyngedig o faniau neu geir yn tynnu trelars bob dydd.
Ni chaniateir trelars echel dwbl neu faniau tipper ar y safle.
Rhaid i chi fedru dadlwytho eich cerbyd/trelar eich hun o fewn 15 munud i osgoi oedi ar y safle.
Dim ond un ymweliad yr wythnos y dylech ei archebu. Gallwch gael eich gwrthod os ydych yn ceisio gwneud nifer o dripiau.
Defnyddio’r ffurflenni islaw yw’r ffordd rwyddaf i drefnu ymweliad.
Gofynnir i chi gyrraedd o fewn y slot amser o 30 munud yr ydych wedi ei archebu a dod â’ch e-bost cadarnhau gyda chi (ar eich ffôn neu wedi ei argraffu) fel tystiolaeth.
Os na allwch archebu ar-lein, gallwch ein ffonio ar 01633 644644, gwnewch nodyn o’r cyfeirnod archebu a roddir i chi a dod ag ef gyda chi i’r safle. Mae’n rhaid i chi fewngofnodi ar Fy Sir Fynwy i archebu slot, os nad oes gennych gyfrif bydd angen i chi greu un.