Skip to Main Content

Diweddariad: Mae disgwyl i Gyngor Sir Fynwy i ddechrau gwaith ar Bont Gwy yn ystod Gwanwyn 2025.

Yn cychwyn ar y 22 Ebrill 2025, bydd gwaith i ail-wynebu Pont Gwy A466 yn cychwyn am gyfnod o 10 wythnos.

 
Yn dilyn adborth gan drigolion yn 2023, rydym yn gwneud cais am Orchymyn Traffig Ffyrdd Dros Dro i gau’r bont rhwng 8pm a 6am, dydd Sul i Iau, am 10 wythnos. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd gan y gwasanaethau brys a cherddwyr fynediad i groesi’r bont.

Drwy gydol y cyfnod, bydd llwybr dargyfeirio ar gael rhwng 8pm a 6am

Yn ystod y dydd, 6am i 8pm, bydd y bont ar agor i draffig.

Bydd y ffordd ar agor dros nos Wener a Sadwrn

C1. Pryd fydd y gwaith yn digwydd?

Mae’r gwaith wedi i’w cynllunio i gychwyn ar y 22 Ebrill 2025, ac yn cymryd tua 10 wythnos.

C2. Faint o’r gloch bydd y gwaith yn dechrau ac yn gorffen?

Bydd y gwaith ail-wynebu yn cael ei wneud rhwng 8pm a 6am o ddydd Sul i ddydd Iau.

C3. A fydd y bont ar gau?

Rhwng yr oriau 8pm a 6am o ddydd Sul i ddydd Iau, bydd Pont Gwy ar gau i draffig. Bydd y bont ar agor drwy’r dydd a dros nos Wener a Sadwrn.

C4. A fydd modd i mi groesi’r Bont o hyd?

Bydd gwaith dros nos yn golygu y bydd y bont ar gau i draffig rhwng 8pm a 6am o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd mynediad yn parhau yn ei le ar gyfer gwasanaethau brys a cherddwyr sy’n cerdded neu’n beicio.

C5. Pa waith fydd yn cael ei wneud?

Byddwn yn gosod arwyneb newydd ar y bont. Bydd yr arwyneb presennol yn cael ei godi fesul tipyn a’i ailosod gydag arwyneb aberthol i ganiatáu i draffig groesi’r bont drannoeth. Pan fydd digon o ddarnau’n barod, bydd yr arwyneb aberthol yn cael ei godi a’i ail-osod yn llawn gyda haen barhaol o darmac wedi’i selio.

C6. Faint sy’n cael ei wneud?

Bydd y gwaith yn cael ei ganolbwyntio ar y bont yn ystod y nos ar ddydd Sul i ddydd Iau

C7. Yn wreiddiol cynigiwyd y byddai’r bont yn cau’n llwyr am 5-6 wythnos?

Y bwriad gwreiddiol oedd tynnu’r haen ac yna rhoi arwyneb newydd arno gyda haen barhaol gan olygu na fyddai traffig yn cael teithio dros y bont. Yn dilyn trafodaethau gyda thrigolion a busnesau, bydd y rhaglen newydd yn cael ei chyflwyno o dan weithio gyda’r nos er mwyn caniatáu i’r bont aros ar agor ar gyfer traffig oriau brig yn ystod y dydd.

C8. Beth fydd yn digwydd os caiff y gwaith ei ganslo oherwydd tywydd gwael?

Gall tywydd effeithio’n ddifrifol ar ansawdd atgyweiriadau arwyneb ffyrdd. Lle mae tywydd yn debygol o effeithio ar waith, byddwn yn sicrhau ein bod yn diweddaru ein cyfryngau cymdeithasol.

C9. Faint o waith ydych yn wneud?

Byddwn yn ail-wynebu ffordd o’r goleuadau traffig A40 i gylchfan Lidl

Am wybodaeth bellach, e-bostiwch: mccassetmanagement@monmouthshire.gov.uk