Adroddiadau Ymchwiliad Llifogydd Adran 19
Yn unol ag Adran 19 Deddf Llifogydd a Rheoli Dŵr 2010, mae gan Gyngor Sir Fynwy fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, ddyletswydd i ymchwilio a chyhoeddi adroddiadau ar ddigwyddiadau llifogydd sylweddol o fewn y Sir.
Mae Adran 19 Deddf Llifogydd a Rheoli Dŵr 2010 yn dweud:
(1) Ar ddod i wybod am lifogydd yn ei ardal mae’n rhaid i Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, i’r graddau y mae’n ei ystyried yn angenrheidiol neu’n briodol, ymchwilio:
(a) Pa awdurdodau rheoli risg sydd â swyddogaethau perthnasol rheoli risg llifogydd, a
(b) P’un ai a yw pob un o’r awdurdodau rheoli risg wedi gweithredu, neu’n bwriadu gweithredu y swyddogaethau hynny mewn ymateb i’r llifogydd.
(2) Lle mae awdurdod yn cynnal ymchwiliad dan is-adran (1) mae’n rhaid iddo:
(a) Gyhoeddi canlyniadau ei ymchwiliad, a
(b) Hysbysu unrhyw awdurdodau rheoli risg perthnasol.