O fis Medi 2024, mae addysg gynradd cyfrwng Cymraeg yn ehangu i Drefynwy. Ysgol Gymraeg Trefynwy fydd enw’r ysgol newydd a bydd yn cael ei lleoli ar Ffordd Rockfield. Bydd yr ysgol yn agor gan ddefnyddio model ysgol sy’n golygu y bydd ar gael i ddisgyblion Meithrin, Derbyn a Blwyddyn 1 & 2.
O fis Medi 2024, am flwyddyn yn unig, bydd Ysgol Gymraeg Trefynwy yn cynnig diwrnodau llawn i blant 3 a 4 oed yn unol ag oriau agor yr ysgol. O fis Medi 2025, y gobaith yw y bydd Cylch Meithrin cyfrwng Cymraeg ar safle’r ysgol sy’n gallu darparu gofal cofleidiol i blant 3 a 4 oed, yn ogystal â gofal plant Dechrau’n Deg ar gyfer plant 2 oed, felly bydd meithrinfa’r ysgol wedyn yn dychwelyd i sesiynau rhan-amser o 2 1/2 awr y dydd yn unol â gweddill Sir Fynwy
Dod yn Ddwyieithog
Ydych chi’n ystyried anfon eich plentyn i ysgol cyfrwng Cymraeg?…
Felly beth mae bod yn ddwyieithog yn ei olygu?
Dyma’r gallu i fyw eich bywyd bob dydd yn defnyddio dwy iaith.
Fel rhiant, bydd penderfynu ar addysg eich plentyn un o’r penderfyniadau pwysicaf a wnewch. Gall nifer gynyddol o rieni dystio y bu dewis addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer eu plentyn yn brofiad cadarnhaol a gwerth chweil.
• Mae’r wybodaeth a roddir yma yn anelu i drafod pryderon a nodi manteision bod yn ddwyieithog.
• Mae hefyd yn dangos llwybr clir i’ch plentyn drwy’r blynyddoedd ysgol o’ ddosbarth meithrin, i ysgol gynradd ac ysgol uwchradd a thu hwnt.
Ydych chi eisiau i’ch plentyn ddod yn ddwyieithog?
“Ond dydyn ni ddim yn siarad Cymraeg!”
Gyda’r rhan fwyaf o rieni heb fod yn siarad Cymraeg, mae ysgolion yn darparu popeth yn Saesneg a Chymraeg.
“Beth am eu sgiliau iaith Saesneg?”
Pan fydd plant yn gadael ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg maent yn rhugl yn Gymraeg, ac mor rhugl yn Saesneg â phlant o ysgolion cyfrwng Saesneg.
“Pam addysg cyfrwng Cymraeg?”
Mae’r addysg o safon ardderchog. Mae’n rhwydd dysgu iaith o oed cynnar ac mae plant yn mwynhau eu bywyd yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Felly beth yw manteision bod yn ddwyieithog ?
Gallwch fyw eich bywyd mewn dwy (neu fwy) o ieithoedd. Gan fyw yng Nghymru, caiff eich bywyd ei gyfoethogi pan y medrwch siarad Cymraeg. Ac os ydych eisiau teithio neu eisoes yn siarad ieithoedd eraill adref, mae dysgu iaith arall yn rhwydd!
Mae cyfleoedd gwaith a gyrfa gwych. Mae siarad dwy iaith yn cynnig mwy o gyfleoedd cyflogaeth yn ogystal â sgil ychwanegu ar eich C.V.
Mae’n fanteisiol siarad gyda phobl yn eu dewis iaith. Mae’r meysydd gyrfa hyn yn neilltuol yn frwd i gyflogi siaradwyr Cymraeg – y cyfryngau, technoleg gwybodaeth, iechyd, y sector cyhoeddus, chwaraeon a hamdden, manwerthu a’r sector gofal plant ac yn y blaen.
Ymestynnwch eich ymennydd … Mae ymchwil rhyngwladol yn dangos fod plant dwyieithog yn tueddu i gyflawni’n uwch o fewn y cwricwlwm a pherfformio’n well mewn arholiadau. Maent hefyd yn tueddu i wneud yn well dan bwysau
Sut y caiff y Gymraeg ei dysgu mewn ysgol cyfrwng Cymraeg?
Pan mae plant yn dechrau dysgu Cymraeg, cânt eu trochi yn yr iaith o’r cychwyn cyntaf ond mae’r staff yn hyblyg a gallant ddefnyddio Saesneg os oes angen i sicrhau eu llesiant.
- Y Gymraeg yw iaith yr addysg yn y Cyfnod Sylfaen (meithrinfa-B2) ac yna bydd plant yn cael gwersi yn Saesneg ac yn defnyddio Saesneg yn eu gwersi ar draws y cwricwlwm.
- Caiff hyn ei gydnabod yn rhyngwladol fel ffordd o ddysgu iaith.
- O Blwyddyn 3, mae disgyblion yn dilyn yr un cwricwlwm â disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg drwy’r TGAU.
Eu profiad addysg ddwyieithog 3-18 oed
Canolfan Drochi Iaith Gymraeg
Darpariaeth yn yr Iaith Gymraeg a Chymorth
Dolenni Cyflym
Bod yn ddwyieithog Lawrlwytho