Rydym yn gwneud rhai newidiadau dros dro i wneud Cil-y-coed yn ddiogel i’n cymunedau ddychwelyd a chefnogi ein siopau a’n busnesau lleol. Mae strategaeth farchnata wych eisoes wedi dechrau.
Bydd parth 20mya yn cael ei gyflwyno yn cwmpasu Cil-y-coed gyfan, ac eithrio’r B4245, er mwyn creu amgylchedd mwy diogel ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
Mae canol y dref eisoes ar gyfer cerddwyr yn unig ond weithiau mae cerbydau’n gyrru drwy ganol y dref. Er mwyn gwella diogelwch cerddwyr mae mynediad i gerbydau i ganol y dref yn cael ei reoli gan rwystrau ar y naill ben a’r llall. Mae’r gwelliannau i ardal Y Groes sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn cynnwys set o rwystrau (ac mae mynediad wedi’i rhwystro gan y safle adeiladu ar hyn o bryd). Mae rhwystrau i’w gosod ar ben deheuol canol y dref a byddant yn cael eu rheoli gan swyddogion y cyngor sir a’r cyngor tref.
Mae adborth yn awgrymu y byddai’n well gan gerddwyr pe bai beicwyr yn dod oddi ar eu beiciau wrth deithio drwy ganol y dref. Bydd standiau beiciau’n cael eu darparu ym mhen ardal Y Groes yng nghanol y dref er mwyn annog beicio i ganol y dref – ond nid trwyddo (mae standiau beiciau eisoes ar waith ym mhen deheuol canol y dref).
Yn y siopau ar y pen gorllewinol, caiff cyrbau codi newydd eu cyflwyno er mwyn creu mannau mynediad ac allanfa cerbydau diffiniedig, gan wella diogelwch ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
Mae’r holl newidiadau yn rhan o gyfnod prawf. Byddwn yn gofyn am adborth byw a byddwn yn addasu, yn ychwanegu at, yn newid neu’n dileu mesurau fel y bo’n briodol. Byddwn yn dysgu’n gyflym ac yn addasu wrth i ni fynd i wella yn seiliedig ar adborth. Os bydd rhai o’r newidiadau yn llwyddiannus, byddwn yn ystyried eu gwneud yn barhaol, yn dilyn ymgynghoriad yn y dyfodol.