Mae’r ‘Pwyllgor Craffu Perfformiad a Throsolwg’ yn cynnig her adeiladol i’r Cabinet, gan eu dwyn i gyfrif am berfformiad darparu gwasanaethau a rheoli risg. Mae hefyd yn cynnal gwaith monitro ariannol cadarn ac yn craffu ar berfformiad y Cyngor o ran cyflawni’r amcanion corfforaethol a amlinellir yn ei Gynllun Corfforaethol.
Gall y cyhoedd gyflwyno cyflwyniadau sain, fideo ac ysgrifenedig i’r pwyllgor hwn a mynychu ei gyfarfodydd. I gyfrannu at waith y pwyllgor hwn neu i awgrymu pwnc i graffu arno, cliciwch ar yr adran ‘Cymryd Rhan’ ar y wefan.
Cylch gorchwyl y pwyllgor hwn yw:
“Craffu ar berfformiad parhaus holl wasanaethau’r Cyngor a sicrhau bod y Cabinet yn cael ei ddwyn i gyfrif”.
“Craffu ar y modd y mae’r Cyngor yn cyflawni yn erbyn ei amcanion corfforaethol, risgiau corfforaethol a monitro cyllidebau ar gyfer pob gwasanaeth”.