Skip to Main Content

Mae addysg gynnar yn digwydd y tu mewn i ystafelloedd dosbarth y blynyddoedd cynnar ac yn yr ardal awyr agored sy’n galluogi plant i ddysgu trwy chwarae. Mae Cwricwlwm i Gymru yn rhoi’r cyfle i bob plentyn fod yn ganolog i’w ddysgu. Bydd diddordebau eich plentyn yn cael eu hystyried a bydd yn cael ei annog i wneud dewisiadau am ei ddysgu. Bydd staff cwbl gymwys yn gweithio gyda dosbarthiadau cyfan, grwpiau bach ac unigolion i ddatblygu dysgu plant, wrth wneud arsylwadau. Mae hyn yn arwain at brofiad dysgu sy’n hwyl, yn ymarferol ac yn llawn gweithgareddau ymarferol y sy’n datblygu agweddau cadarnhaol at ddysgu.

Mae addysg gynnar yn galluogi plant i fwynhau dysgu a chwarae cyn iddynt ddechrau yn yr ysgol a bydd y profiad hwn yn eu helpu i ddysgu’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth i’w paratoi ar gyfer eu blynyddoedd mewn addysg yn y dyfodol.

Er mwyn cael gwybodaeth am leoedd addysg gynnar yn Sir Fynwy, ewch i http://www.fis.wales/fis/W06000021

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y Cwricwlwm i Gymru, lawrlwythwch y canllaw isod.