Bydd rhai busnesau yng nghanol trefi Sir Fynwy yn manteisio o grant i hybu adferiad yn dilyn effaith y pandemig coronafeirws, fodd bynnag daw Cam Un i ben ar 24 Hydref felly os ydych yn ystyried gwneud cais, dyma’r amser i wneud hynny.
Mae Grant Addasiadau Awyr Agored Canol Trefi COVID-19 yn rhoi cyfle i fusnesau sicrhau hyd at £8,000 at welliannau sy’n cynorthwyo ymbellhau cymdeithasol yn ogystal â’r amgylchedd a’r cyfleusterau yng nghanol trefi’r sir. Mae’r cyngor eisoes wedi gwahodd busnesau a sefydliadau eraill i wneud cais, a dyfarnwyd y grantiau cyntaf. Hyd yma, mae dros 90 o fusnesau canol trefi wedi datgan diddordeb yn y cynllun, ac mae amser yn dal i fod i eraill wneud cais.
Drwy gydol yr haf, canfu llawer o siopau, caffes, tafarndai a bwytai fod defnyddio ardaloedd awyr agored wedi helpu i roi sicrwydd i breswylwyr wrth siopa a mwynhau cinio neu goffi a medru cadw pellter cymdeithasol. Mae’r mesurau a gyflwynwyd yn llawer o drefi Sir Fynwy dros fisoedd yr haf wedi helpu i gefnogi hyn. Mae hyn wedi cynnwys llwybrau lletach ar gyfer ciwiau a hwyluso ymbellhau cymdeithasol a chreu ardaloedd caffe newydd ar balmentydd i ehangu tu allan eu safleoedd.
Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Nawr fod yr hydref yma, mae llawer o fusnesau’r sir yn paratoi am fisoedd yr haf sy’n debygol o weld parhad mewn ymbellhau cymdeithasol a mesurau eraill i atal Covid-19. Ni ddylid felly diystyru’r cyfle i dderbyn arian i helpu talu am gost eitemau tebyg i oleuadau tu allan, byrddau a seddi. Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys adlenni a chanopïau, a all helpu i gadw siopwyr yn sych, yn ogystal â gwresogyddion i’w gwneud yn fwy deniadol i eistedd yn yr awyr agored.
“Hoffwn annog cynifer o fusnesau ag sydd modd i fynd ar-lein a chofrestru eu diddordeb yn y cynllun hwn cyn gynted ag sy’n bosibl. Po fwyaf sy’n cael budd, y gorau fydd hi os yw stryd fawr ein trefi i gadw’n fywiog ac yn brysur gyda siopwyr drwy gydol y gaeaf. Er bod angen cadw pellter cymdeithasol, gall llawer o siopau llai a chaffes ganfod fod defnyddio gofod y tu allan yn allweddol i’w goroesiad. Fel cyngor, rydym yn ymroddedig i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi busnesau gwych Sir Fynwy. Rwy’n falch i ddweud y buom yn brysur yn prosesu ceisiadau a rydym wedi dechrau rhoi grantiau ond rydym yn awyddus i wneud mwy. Byddwn yn parhau i sicrhau cymaint o gymorth i fusnesau ag y medrwn, y neges am heddiw yw gwneud cais cyn gynted ag y medrwch am yr hyn sydd ar gael ar hyn o bryd.”
Mae cyllid ar gael ar gyfer busnesau yn ardaloedd siopa canolog Brynbuga, Cil-y-coed, Cas-gwent, Trefynwy a’r Fenni. Disgwylir ceisiadau’n bennaf gan fusnesau lletygarwch ond caiff safleoedd manwerthu eraill, heb fod yn hanfodol, gyda syniadau arloesol eu hannog i wneud cais.
Mae’r cynllun yn cynnig cyllid o hyd at 80% o gyfanswm cost gwelliannau cymwys, hyd at uchafswm o £8,000 gydag angen i fusnesau dalu’r 20% sydd ar ôl. Gellir ystyried lefelau uwch o gyllid mewn amgylchiadau eithriadol, tebyg i adeiladau tirnod gyda llawer o ofod awyr agored neu lle mae prosiectau yn hyrwyddo hirhoedledd ac ansawdd, gan gael effaith gadarnhaol ar ardaloedd parth cyhoeddus.
Dylai pob eitem a gyllidir gan y cynllun fod o ansawdd digonol i sicrhau eu bod yn rhoi budd parhaol a deniadol i’r gofodau hygyrch i’r cyhoedd a ddefnyddir. Lle’n briodol bydd angen i ymgeiswyr fod â, neu wneud cais am, drwydded gofod caffe sy’n galluogi masnachu awyr agored.
Cam cyntaf y cynllun yw cofrestru Datganiad Diddordeb. Gellir gwneud hyn drwy wefan y cyngor – Monmouthshire.gov.uk/town-grants/ – lle mae gwybodaeth ychwanegol ar gael.