Bu ysgolion Sir Fynwy, gweithwyr y cyngor a grwpiau cymunedol yn gwisgo coch i ddangos eu cefnogaeth i chweched ‘Diwrnod Gwisgo Coch’ blynyddol ymgyrch Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth ddydd Gwener 16 Hydref.
Nid yw’r pandemig presennol wedi atal pobl rhag dangos eu cefnogaeth i’r achos pwysig, gyda staff y cyngor yn rhannu eu gwisgoedd coch neu droi eu proffiliau gwaith ar-lein i ddelwedd o logo Diwrnod Gwisgo Coch. Mae ysgolion hefyd wedi cefnogi’r ymgyrch, gyda disgyblion ar draws y sir yn ffeirio eu gwisgoedd ysgol am eu dillad coch eu hunain. Ymunwyd â nhw gan gynllun cyfeillgarwch My Mates a fwynhaodd drafodaeth ar-lein am y digwyddiad.
Mae’r diwrnod gweithredu lleol yn annog ysgolion, busnesau ac unigolion i wisgo coch a chyfrannu £1 i helpu hwyluso addysg gwrthhiliaeth ar gyfer pobl ifanc ac oedolion ledled Cymru, Lloegr a’r Alban.
Mae pob ceiniog a godir yn ystod Diwrnod Gwisgo Coch yn galluogi’r ymgyrch i weithio gyda mwy o bobl ifanc ac oedolion ar draws Prydain i herio hiliaeth mewn cymdeithas. Gall hyn helpu i sicrhau fod pobl yn rhoi adroddiad am achosion o droseddau casineb, mae dioddefwyr yn cael y gefnogaeth maent ei hangen ac mae’r rhai yn cyflawni’r troseddau hynny yn wynebu cyfiawnder.
Dywedodd y Cyng Sara Jones, Aelod Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol: “Rwyf mor falch o’r gefnogaeth wych a ddangoswyd gan gydweithwyr yn Sir Fynwy, ysgolion a chynlluniau cymunedol ar yr hyn sy’n ddiwrnod mor bwysig yn cydnabod y diffyg cydraddoldeb a’r gwahaniaethu sy’n wynebu cymaint o bobl yn 2020. Rydym yn gymuned sydd wedi adeiladu ar groesawu amrywiaeth. Nid oes gan hiliaeth unrhyw le yn y sir hon a dylai pawb yma deimlo’n ddiogel a bod croeso iddynt beth bynnag yw lliw eu croen, eu diwylliant, eu rhywioldeb, oedran neu grefydd.”
Mae Diwrnod Gwisgo Coch yn cyd-daro gyda diwedd Wythnos Troseddau Casineb sydd wedi rhoi sylw i’r anghyfiawnder a gwahaniaethu sy’n wynebu aelodau o’r gymuned. Bu Cyngor Sir Fynwy yn rhannu negeseuon am beth yw troseddau casineb a sut gall pobl sy’n profi troseddau casineb wneud adroddiadau am hynny. Fel rhan o’r sylw, cafodd cydweithwyr gyfle i glywed gan Shaz Miah, Swyddog Cydlyniaeth Gymunedol y cyngor, sydd o’r gymuned BAME. Rhannodd ei brofiad o’r heriau a wynebodd ef a’i deulu yn ystod y cyfnod clo a sut y gwnaeth oresgyn yr heriau hynny oedd yn cynnwys gwneud ei Fosg ei hunan yn ei gartref.
Wrth siarad am ei brofiad dywedodd Shaz: “Fe wnaethom dreulio Ramadan yn y ffordd orau y medrem yn ystod y cyfnod clo. Fe wnaethom drawsnewid ystafell yn ein tŷ yn Fosg fechan fel y gallem i gyd weddïo gyda’n gilydd mewn cynulleidfa. Roedd yn hwyl fawr i adeiladu’r Mosg. Fe gymerodd yr holl deulu ran yn y broses adeiladu. Roeddem yn teimlo’n fwy cysylltiedig yn ysbrydol ar ôl adeiladu’r Fosg fach a chawsom gymaint o hwyl yn ei hadeiladu. Os byddwn byth yn cael ein hunain yn yr un sefyllfa eto yna gobeithiaf y bydd y syniad am Fosg fach wedi ysbrydoli pobl eraill i wneud yr un fath oherwydd mae’n hwyl ac mae plant yn teimlo’n rhan o’r holl broses.”
Ychwanegodd: “Mae pobl Sir Fynwy yn hollol wych, mae lefel y gefnogaeth a gafwyd gan gymunedau ar draws yr ardal yn enfawr. I mi’n bersonol bu’r gefnogaeth a gefais gan fy nghydweithwyr yng Nghyngor Sir Fynwy yn ystod y cyfnod hwn yn anhygoel. Rwy’n hyderus y byddwn yn trechu’r feirws yma ac yn symud ymlaen gyda’n bywydau.”
I roi adroddiad am hiliaeth neu droseddau casineb, cysylltwch â’r heddlu ar 101 neu 999, rhoi adroddiad ar-lein drwy www.report-it.org.uk neu yn gyfrinachol i Cymorth Dioddefwyr https://www.reporthate.victimsupport.org.uk I gael mwy o wybodaeth ewch i: https://www.theredcard.org/