Y Dreth Gyngor, Trethi Busnes a Budd-daliadau
Cronfa Costau Byw Newydd – Taliadau Dewisol wedi’u Cyhoeddi. MWY O WYBODAETH
Dŵr:
Os ydych yn cael trafferth talu eich bil dŵr, dylech gysylltu â’ch cyflenwr ar unwaith. Os ydych gyda Dŵr Cymru, maent wedi amlinellu’r cymorth y gallant ei ddarparu, sy’n cynnwys cynlluniau talu a gostyngiadau yn y gyfradd dŵr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma:
Cymorth gyda biliau | Dŵr Cymru Welsh Water (dwrcymru.com)
Nwy a thrydan:
Bydd unrhyw gwsmer ynni sydd angen cymorth ariannol hefyd yn cael ei gefnogi gan eu cyflenwr, a allai gynnwys ad-daliadau dyled a thaliadau biliau yn cael eu hailasesu, eu lleihau neu eu gohirio lle bo angen.
Help ar gyfer tenantiaid a landlordiaid cymdeithasol
Bydd rhai landlordiaid cymdeithasol yn gallu darparu talebau tanwydd ar gyfer mesuryddion rhagdalu. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’ch landlord yn uniongyrchol ar:
Pobl: contact@poblgroup.co.uk 0330 175 9726
Cymdeithas Tai Sir Fynwy: 0345 677 2277 neu moneywise@monmouthshirehousing.co.uk
Melin: moneyadvice@melinhomes.co.uk or 01495 745910
Band eang a ffonau mudol:
Os ydych yn poeni am dalu eich bil band eang neu ffôn symudol, dylech gysylltu â’ch cyflenwr ar unwaith, oherwydd efallai y gallant roi cynllun talu neu gymorth arall ar waith i’ch helpu i aros gyda hwy.