Mae myfyrwyr ar draws Sir Fynwy yn derbyn eu canlyniadau TGAU. Mewn wythnos o graffu cyhoeddus a gwleidyddol dwys ar system a phrosesau addysg Cymru heddiw rydym yn rhoi ein ffocws eto i gyflawniadau ein dysgwyr. Mae hwn yn adeg hollbwysig i lawer o’n dysgwyr fydd yn mynd â nhw i’w camau nesaf tuag at astudiaeth bellach neu’r gweithle.
Dywedodd y Cyng. Richard John, Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc a BywydMynwy: “Mae’r wythnos cyn cyhoeddi canlyniadau arholiadau bob amser yn anodd, ond bu amgylchiadau eleni yn eithriadol. Bu 2020 yn amser heriol i lawer o’n pobl ifanc wrth i ganlyniadau’r pandemig byd-eang effeithio arnynt. Hoffwn longyfarch pawb sy’n derbyn eu canlyniadau TGAU a gobeithio eu bod yn gam arall ymlaen tuag at yrfa werth chweil. Hoffwn ddiolch i holl staff ein hysgolion a fu’n cefnogi ‘r dysgwyr hyn drwy gydol eu haddysg ynghyd â’u teuluoedd y mae eu cefnogaeth a’u harweiniad wedi eu helpu i gyflawni. Dymuniadau gorau i ddosbarth 2000 yn eu camau nesaf.”
Ychwanegodd Will McLean, Prif Swyddog, Plant a Phobl Ifanc: “Hoffwn longyfarch ein holl ddysgwyr ar yr hyn y maent wedi ei gyflawni heddiw. Hoffwn hefyd ddiolch i’n holl ysgolion am eu gwaith yn cefnogi eu dysgwyr drwy eu taith ddysgu ond hefyd y gefnogaeth y maent wedi ei rhoi i fyfyrwyr yn ystod y misoedd diwethaf o gyfyngiadau symud. Mae TGAU yn nodi diwedd addysg statudol ond byddant yn nodi dechrau llwybrau myfyrwyr i yrfaoedd a hoffwn ddymuno pob lwc i bob myfyriwr ar y llwybr hwnnw.”