Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cyhoeddi’r cynlluniau arfaethedig ar gyfer gwelliannau i Heol yr Eglwys, Cil-y-coed. Bwriedir iddynt fynd i’r afael â nifer o anghenion lleol a nodwyd gan y Cyngor Sir a sefydliadau lleol eraill.  

Mae’r rhain yn cynnwys rheoli traffig a pharcio yn ystod amseroedd codi a gollwng i’r ysgol, lleihau cyflymder y traffig, gwella’r amgylchedd er mwyn i drigolion lleol gerdded a beicio, tra’n datblygu’r ffordd i fod yn stryd fwy deniadol a ‘gwyrdd’ drwy gyflwyno mwy o goed, plannu a throetffyrdd ehangach. Bydd y gwelliannau hyn hefyd yn gwella’r cyswllt rhwng canol y dref a Chastell a Pharc Gwledig Cil-y-coed. 

Mae’r prosiect hwn yn ganlyniad ymgynghori helaeth dros y blynyddoedd diwethaf lle gofynnwyd i bobl pa ardaloedd yng Nghil-y-coed yr hoffent weld gwelliannau’n cael eu gwneud iddynt.

Mae cynigion Heol yr Eglwys yn ffurfio rhan o’r cynlluniau adfywio ehangach ar gyfer Tref Cil-y-coed, ac mae cynlluniau’n cael eu datblygu i wella’r ardal i fusnesau, trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Yn 2018, dewiswyd Tref Cil-y-coed fel cynllun adfywio blaenoriaeth Sir Fynwy ac mae’n ffurfio rhan o gynllun adfywio ehangach prifddinas-ranbarth Caerdydd.

Mae’r cynllun yn cael ei ariannu’n bennaf gan grant Llywodraeth Cymru ac mae’r Cyngor yn aros i glywed os yw’r arian wedi’i ddyfarnu.  Os bydd y cyllid yn cael ei roi ar waith eleni, yna rhagwelir y byddai’r gwaith yn dechrau yn gynnar y flwyddyn nesaf, gyda’r union amser i’w gadarnhau maes o law. 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, Aelod Cabinet dros Seilwaith a Gwasanaethau Cymdogaeth: “Rwy’n obeithiol iawn y bydd cynllun Heol yr Eglwys yn mynd yn ei flaen. Mae’n eistedd yn dda gyda’r gwelliannau i ardal Y Groes ac yn helpu i gysylltu’r Castell â’r dref drwy gerdded neu feicio yn hytrach na mewn car.”

Dywedodd y Cynghorydd David Evans, Maer Cil-y-coed: “Mae cynllun Y Groes yn dod â gwelliannau mawr i ganol y dref ac mae hyn yn ei wella ymhellach. Byddwn yn canolbwyntio wedyn ar ennill mwy o fuddsoddiad i wella gweddill canol y dref.  Rwy’n mawr obeithio y bydd y cyllid yn cael ei roi yn ei le er mwyn i gynllun Heol yr Eglwys fynd yn ei flaen.”

Mae’r cynigion eisoes wedi’u rhannu â thrigolion a busnesau Heol yr Eglwys, yn ogystal â chynrychiolwyr o Ysgol Gynradd Parc y Castell.  Maent bellach ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ehangach a gellir eu gweld ar y we yma.
https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/adfywio-canol-tref-cil-y-coed-2/gwelliannau-arfaethedig-i-heol-yr-eglwys/

Anogir preswylwyr a busnesau i roi adborth drwy’r arolygon ar y dudalen honno.