Diolch i haelioni cwmni lleol Gwent Energy, mae hyb cymunedol Cyngor Sir Fynwy yng Nghas-gwent wedi derbyn diffribiliwr a allai helpu i arbed bywydau yn y dref. Caiff y diffribiliwr ei osod mewn wal allanol a bydd ar gael i’w ddefnyddio ar unrhyw amser.
Mae Gwent Energy yn arbenigo mewn technoleg arbed ynni ac yn darparu’r man gwefru cerbydau trydan ger yr hyb cymunedol. Dywedodd Phil Powell o Gwent Energy: “Ychydig flynyddoedd yn ôl gosododd Gwent Energy CIC fan gwefru cerbydau trydan yn ymyl yr hyb cymunedol yng Nghas-gwent, gan fod ein hardal yn brin o seilwaith gwefru. Mae arian a godir o ddefnyddio’r man gwefru hwn yn helpu i roi budd cymunedol i Sir Fynwy. Gan y cafodd ein holl ddigwyddiadau cymunedol yn ddealladwy eu canslo eleni oherwydd pandemig COVID-19, yn lle hynny cawsom gyfle gwych i ddefnyddio ein cronfeydd cymunedol i brynu a gosod offer pwysig a fedrai achub bywydau.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Paul Jordan, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am hybiau cymunedol y sir: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Gwent Energy am ddarparu diffribiliwr yn Hyb Cymunedol Cas-gwent lle bydd mewn lleoliad cyfleus ar gyfer canol y dref. Gobeithiwn na fyddwn byth mewn sefyllfa lle mae’n rhaid i ni ei ddefnyddio ond mae’n dda gwybod y gallwn helpu i achub bywyd, os oes angen hynny.
Yn y cyfamser, bydd cais llwyddiannus i’r elusen Calonnau Cymru, sy’n darparu diffribilwyr gyda mynediad i’r cyhoedd, sgrinio ar gyfer cyflyrau iechyd a hyfforddiant CPR ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru, yn arwain at osod offer tebyg yn Hyb Cymunedol Cas-gwent yn y dyfodol agos.