Gall cofrestru genedigaethau yn Sir Fynwy ac ar draws Cymru yn awr ail-ddechrau.
Gan fod y swyddfa gofrestru yn awr yn trin ôl-groniad o gofrestriadau, rhoddir blaenoriaeth i apwyntiadau yn seiliedig ar ddyddiad geni’r baban – gyda’r rhai sydd wedi aros hiraf yn cael eu cofrestru gyntaf. Mae’r swyddfa gofrestru wedi dechrau gwneud apwyntiadau ar gyfer yr wythnos yn cychwyn 29 Mehefin.
Caiff rhieni y cafodd eu babanod eu geni cyn 1 Ebrill 2020 eu hannog i gysylltu gyda ni i wneud apwyntiad. Ar gyfer babanod a anwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill, gofynnir i rieni gysylltu â’r swyddfa gofrestru i gael mwy o wybodaeth.
Gwnaed trefniadau newydd ar gyfer pob genedigaeth o fewn ardal Gwent / Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Mae pump awdurdod lleol Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen yn cydweithio fel y gall rhieni fynychu eu swyddfa leol i gwblhau’r cofrestru a phrynu tystysgrif geni eu baban yn yr apwyntiad hwnnw.
Bydd angen i rieni newydd fynychu swyddfa gofrestru yn bersonol ond bydd swyddfeydd yn gostwng hyd y cyfweliad drwy gasglu gwybodaeth ymlaen llaw.
Mae gwefannau’r awdurdodau lleol islaw:-
Manylion Cyswllt | Cyfeiriad E-bost | Rhif Ffôn |
Gwasanaeth Cofrestru Blaenau Gwent | registrars@blaenau-gwent.gov.uk | 01495 353372 |
Gwasanaeth Cofrestru Caerffili | registrars@caerphilly.gov.uk | 01443 864166 neu 864170 |
Gwasanaeth Cofrestru Casnewydd | registrar@newport.gov.uk | 01633 235510 neu 235520 |
Gwasanaeth Cofrestru Sir Fynwy | RegisterOffice@monmouthshire.gov.uk | 01873 735435 |
Gwasanaeth Cofrestru Torfaen | registrars@torfaen.gov.uk | 01495 742132 neu 742133 |