Dylai busnesau yn Sir Fynwy weithredu’n fuan os ydynt yn dymuno gwneud cais am gymorth ariannol. Mae Cronfa Grantiau Busnes Llywodraeth Cymru yn cau ar 30ain Mehefin. Mae dros 2,000 o fusnesau eisoes wedi cofrestru, ac mae llawer ohonynt eisoes yn derbyn grantiau o £10,000 neu £25,000 sydd wedi cael eu gweinyddu gan Gyngor Sir Fynwy. Mae’r cyllid hwn ar gael i fusnesau cymwys o fewn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden ac nid oes angen eu had-dalu. Fodd bynnag, mae cannoedd o fusnesau mewn perygl o golli’r cyfle i gael y cymorth hwn.
Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Rydym wir eisiau i unrhyw berchennog busnes, sy’n credu y gallen nhw fod yn gymwys, i fynd ar wefan Busnes Cymru a chofrestru. Erbyn hyn, credwn fod cynifer â 500 o fusnesau yn mynd i golli’r cyllid hwn. Gall busnesau sydd â mwy nag un adeilad gwblhau cais ar gyfer pob safle. Mae hwn yn gymorth hanfodol. Byddwn yn gofyn i bawb gyfleu’r neges hon er mwyn sicrhau y gall cynifer o fusnesau ag sy’n bosibl gael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo.”
Mae Cyngor Sir Fynwy yn annog perchnogion busnesau i gymryd y cam cyntaf a gwirio’u cymhwysedd drwy ymweld â gwefan grantiau busnes COVID-19 Llywodraeth Cymru https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy/cymorth/cymorth-ariannol-grantiau a gwneud cais ar-lein.
Am wybodaeth ychwanegol ewch i: https://www.monmouthshire.gov.uk/business-advice/