Cafodd trafnidiaeth gyhoeddus yn Sir Fynwy hwb gyda’r cyhoeddiad fod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £290,000 i’r cyngor i wella seilwaith safleoedd bws ar draws y sir. Mae’r dyfarniad, a dderbyniwyd ar 21 Mai, yn dilyn cais llwyddiannus y Cyngor am grant o Gronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol y Llywodraeth.
Bydd y cyllid yn galluogi Cyngor Sir Fynwy i ddarparu llochesi bws newydd, seddi, polion a baneri safleoedd bws, cloriau amserlen, mannau uwch ar gyfer camu ar ac oddi ar fysus a goleuadau mewn llawer o safleoedd. Blaenoriaeth gyntaf y cyngor yw gosod llochesi newydd yng Ngorsafoedd Bws y Fenni, Cas-gwent a Threfynwy yn ogystal ag yn Ysgol Gynradd Thornwell ac ardal siopa’r Bulwark yng Nghas-gwent. Y mesurau nesaf fydd gwella a rhoi llochesi, cloriau amserlen a seddi newydd ar hyd llwybr yr X74 rhwng Magwyr, Cil-y-coed a Chas-gwent, ac wedyn cynhelir adolygiad o’r seilwaith bws presennol ar draws y sir i ddatblygu cynlluniau penodol ar gyfer y dyfodol.
Mae’n rhaid cwblhau’r holl waith mewn cysylltiad â’r grant erbyn 31 Mawrth y flwyddyn nesaf ac mae cynlluniau eisoes ar y gweill i ddarparu’r llochesi newydd. Cynhelir tendr ar brosiect yr X74 a bydd angen manyleb ar gyfer yr adolygiad o’r seilwaith cyn y gellir cymryd camau pellach.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, aelod cabinet Sir Fynwy dros Seilwaith a Gwasanaethau Cymdogaeth: “Bydd y cyllid derbyniol iawn hwn yn gwella teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn y sir drwy gynyddu cysur a diogelwch yn ogystal â rhoi gwell gwybodaeth am amserlenni. Edrychaf ymlaen at weld y prosiectau hyn yn cael eu cwblhau erbyn mis Mawrth nesaf.”