Mae Cyngor Sir Fynwy yn awyddus i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion a chywiro unrhyw gamsyniadau o ran cau Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Mae’n ymddangos bod rhywfaint o wybodaeth anghywir ar led bod pob safle ailgylchu yn Lloegr wedi ailagor bellach, felly mae pwysau cynyddol ar Gyngor Sir Fynwy i agor ei safleoedd lleol. Mae’n wir fod nifer fach o ardaloedd yn Lloegr wedi ailagor eu Canolfannau Ailgylchu, ond mae’r rhan fwyaf o gynghorau ledled y DU (a phob un yng Nghymru) yn yr un sefyllfa â ni.
Mae’r canllawiau presennol yn nodi mai dim ond ar gyfer teithio hanfodol y gall pobl adael eu cartrefi ac, ar hyn o bryd, nid yw hyn yn cynnwys teithio i safleoedd ailgylchu.
Mae’r canllawiau hyn yn parhau i fod ar waith, ac maent yn debygol o barhau nes i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru adolygu’r cyfnod cau. Ar lefel Cymru, mae’r 22 awdurdod yn ystyried dull Cymru gyfan o weithredu (neu o leiaf ymagwedd ranbarthol) gan fod llawer o’r contractwyr sy’n derbyn deunydd oddi wrth Canolfannau Ailgylchu ar gau ar hyn o bryd gyda’u staff wedi mynd ar ryddhad. O ganlyniad, ni all ein safleoedd ailagor os nad yw’r cyrchfannau terfynol ar gyfer deunyddiau hefyd ar agor.
Yn ogystal â’r ffactor allweddol hwn, bydd angen i ni ystyried rheoli traffig er mwyn osgoi ciwiau hir, gweithredu’r safleoedd yn ddiogel a phellhâd cymdeithasol.
Bydd y cynllunio sy’n ofynnol o dan y ffactorau hyn yn golygu ei bod yn debygol y bydd cyfnod arweiniol cyn i safleoedd ailagor a/neu bydd safleoedd yn agor fesul cam gyda systemau ar waith o ran rheoli ciwio, mynediad i’r safle, mathau o wastraff a meintiau gwastraff.
Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi pan fydd y sefyllfa’n newid.