Mae arolygiad Estyn o Gyngor Sir Fynwy yn tynnu sylw at y cynnydd da y mae’r Cyngor wedi’i wneud ers ei arolygiad blaenorol ym mis Tachwedd 2012. Mae’n cydnabod y weledigaeth glir a ffocws cryf ar sicrhau ‘y dechrau gorau posibl mewn bywyd’ i blant a phobl ifanc. Caiff disgwyliadau uchel ac ymrwymiad i waith partneriaeth cryf eu phwysleisio. Caiff y broses o ddatblygu gweithdrefnau diogelu enghreifftiol ei ganmol yn yr adroddiad.
Mae Estyn yn cydnabod bod y deilliannau ar gyfer disgyblion yn yr awdurdod yn dda. Mae safonau lles yn gryf ar y cyfan ac mae presenoldeb yn dda hefyd. Mae pobl ifanc yn elwa ar gyfleoedd i gyfrannu at benderfyniadau am faterion sy’n effeithio arnynt ac mae’r awdurdod lleol yn rhoi ystyriaeth dda i’w safbwyntiau. Mae darpariaeth dda i gefnogi anghenion pobl ifanc yn yr awdurdod. Ar adeg pan fo’r materion sy’n wynebu pobl ifanc yn arbennig o ddifrifol mae’r Gwasanaeth Ieuenctid (sy’n rhan o wasanaeth MonLife y Cyngor) yn darparu amrywiaeth o weithgareddau gwerth chweil, a chymorth buddiol i bobl ifanc sy’n agored i niwed. Mae ymrwymiad cryf hefyd i wella darpariaeth a chanlyniadau Sir Fynwy ymhellach ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig (AAA).
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Peter Fox: “Hoffwn ddiolch i Estyn, yr holl dimau dan sylw a’n partneriaid megis y Gwasanaeth Cyflawni Addysg am eu rôl yn y broses hon. Mae’r adroddiad hwn yn dangos yr ymdrechion aruthrol a wnaed gan bawb sy’n ymwneud ag addysgu a diogelu plant a phobl ifanc yn Sir Fynwy. Dylai pawb fod yn falch o daith wella barhaus Cyngor Sir Fynwy. Dros y misoedd nesaf bydd y strategaeth AAA yn cael ei diweddaru a bydd gwybodaeth fanylach yn cael ei chasglu drwy hunanwerthusiad er mwyn llywio’r gwaith o gynllunio gwelliannau’n well a chyfarwyddo’r camau nesaf. Rwy’n obeithiol iawn ynglŷn â dyfodol dysgu yn ein hysgolion”.
Dywedodd Aelod Cabinet Sir Fynwy dros Blant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Richard John: “Rwyf mor falch o weld bod y cynnydd a wnaed yn ysgolion Sir Fynwy wedi cael ei gydnabod gan Estyn. Rydym eisoes yn datblygu ein cynlluniau i wella canlyniadau i ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd wedi bod yn ffocws allweddol i ni yn y gorffennol diweddar. Rydym yn cydnabod bod angen i ni gynnal y disgwyliadau uchaf ar ein dysgwyr gan sicrhau canlyniadau rhagorol.
“Yn fy rôl yn y Cabinet mae’n dda gweld cyfraddau cyfranogi mewn gweithgareddau allgyrsiol fel chwaraeon yn cael eu nodi fel cryfder – mae’r gwasanaethau hyn a gyflenwir gan MonLife yn helpu i ddatblygu dyheadau, hunan-barch a sgiliau cymdeithasol. Hoffwn ddiolch i’n hathrawon a staff eraill yn yr ysgol a swyddogion y Cyngor am eu gwaith rhagorol i helpu pobl ifanc i gyflawni.”
Dywedodd Will McLean, Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc: “Rwyf mor falch bod gwaith amhrisiadwy ein hysgolion a’n system addysgol yn cael ei gydnabod yn yr adroddiad hwn. O’n hathrawon ymroddedig a’n staff cymorth drwodd i’n cynghorwyr her a staff yr awdurdodau lleol, rydym wedi canolbwyntio’n benodol ar sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc. Mae pawb yn y bartneriaeth allweddol hon wedi gweithio mor galed ac yn parhau i wneud hynny yn y cyfnod anghyffredin hwn.
“Roedd proses arolygu Estyn yn darparu tystiolaeth werthfawr a dilysu ein gwaith ac rwy’n ddiolchgar am y modd proffesiynol yr ymgymerodd y tîm arolygu â’u gwaith. Rydym yn gwybod bod yna feysydd y mae angen i ni eu datblygu a hoelio ein sylw arnynt. Byddwn yn ymdrechu’n galetach i ddarparu’r ‘dechrau gorau posibl mewn bywyd’ yn ystod y cyfnod heriol hwn a thu hwnt.”