Haelioni manwerthwyr yn dod â gwên i blant ysgol y sir dros gyfnod y Pasg Mae caredigrwydd dau o fanwerthwyr y stryd fawr wedi sicrhau y bydd pob disgybl sy’n mynychu ysgolion hyb Sir Fynwy ar gyfer plant gweithwyr allweddol yn derbyn wyau Pasg i’w mwynhau. Diolch i haelioni W H Smith o ganolfan siopa Cribbs Causeway ym Mryste a depo Wilkinson yn Magwyr, derbyniodd 180 o blant wyau Pasg mewn ysgolion yn y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent, Rogiet, Casnewydd a Rhaglan. Bu disgyblion yn cael eu dysgu a’u goruchwylio gan staff ysgolion ond dros gyfnod gwyliau’r Pasg bydd staff o wasanaeth BywydMynwy y cyngor yn cymryd eu lle mewn dau safle – Ysgol Gynradd Deri View, y Fenni ac Ysgol Gynradd Dewstow, Cil-y-coed. Dywedodd y Cynghorydd Richard John, aelod cabinet Sir Fynwy dros Blant, Pobl Ifanc a BywydMynwy: “Rwy’n ddiolchgar iawn i’r ddau sefydliad am roi wyau Pasg i’r disgyblion hynny o fewn ein saith ysgol hyb i weithwyr allweddol. Caiff hyn ei werthfawrogi’n fawr rwy’n siŵr pan fyddant yn eu hagor ddydd Sul y Pasg! Hoffwn hefyd ddiolch i’n staff ysgol gwych sydd wedi llwyddo i addasu i ffurf newydd o weithio mewn safle heblaw’r rhai y maent yn gweithio ynddynt fel arfer gan gadw arferion yn gysylltiedig ag ymbellhau cymdeithasol. Mae hyn yn sicrhau y gall gweithwyr allweddol fod yn hyderus y gall eu plant barhau â’u haddysg dan oruchwyliaeth personél profiadol a medrus. Rwyf hefyd yn sicr y bydd sgiliau staff BywydMynwy yn dod â nhw i’r ysgolion dros y gwyliau yn cadw’r plant yn ddifyr iawn.”