Caiff pobl gyflogedig a hunangyflogedig eu hannog i wneud cais am gymorth ariannol yn dilyn y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae’r pecynnau cymorth ar gael i helpu gwarchod incymau yn ystod y pandemig coronafeirws.
Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod Coronafeirws
Os yw’r sawl a gyflogir a’r cyflogwr yn cytuno, efallai y gallai gweithwyr cyflogedig gael eu cadw ar y gyflogres os na fedrant weithredu neu os nad oes ganddynt opsiynau gwaith eraill. Gelwir hyn yn ‘absenoldeb seibiant’. Gallai cyflogwr dalu 80% o gyflog person drwy Gynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod Coronafeirws Llywodraeth y Deyrnas Unedig, hyd at uchafswm misol o £2,500, gall cwmnïau ychwanegu ato gan 20% pellach i 100%. Disgwylir y bydd y cynllun yn weithredol erbyn diwedd mis Ebrill.
Mae gwybodaeth bellach ar gael yn: https://www.gov.uk/government/publications/guidance-to-employers-and-businesses-about-covid-19/covid-19-guidance-for-employees
Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth
Mae’r rhai sy’n hunangyflogedig ac mae’r pandemig coronafeirws wedi effeithio arnynt hefyd yn gymwys i dderbyn grant ariannol yn werth 80% o’u helw masnachu misol cyfartalog dros y tair blynedd ddiwethaf hyd at £2500 y mis. Bydd HMRC yn cysylltu â phobl os ydynt yn gymwys ac yn eu gwahodd i wneud cais ar-lein, gwneir taliadau ym mis Mehefin gyda chyfandaliad wedi ei ôl-ddyddio i mis Mawrth.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yn: https://www.gov.uk/guidance/claim-a-grant-through-the-coronavirus-covid-19-self-employment-income-support-scheme