Dros yr ychydig wythnosau ddiwethaf cafodd Cyngor Sir Fynwy ei synnu ar yr ochr orau gan y gefnogaeth wych a gynigiwyd gan gymunedau yn dymuno gofalu am gymdogion a chyfeillion yn ystod y pandemig COVID-19. Bu cynnydd yn nifer y grwpiau gweithredu cymunedol a gwelwyd gweithredoedd hynod o garedigrwydd. Sefydlwyd dros 30 o grwpiau gweithredu cymunedol ar draws y sir i gyd gyda’r nod o gefnogi eraill ar yr adeg hon o angen.
Mae gan wirfoddoli rôl hollbwysig yn y rhwydwaith cefnogaeth a gynigir i’r bobl fwyaf bregus yn ystod y cyfnod hwn ac mae’r cyngor yn annog mwy o bobl i feddwl sut y gallent helpu eu cymdogion. Gallai fod cyn lleied â gwên wrth fynd heibio neu gynnig casglu cyflenwadau sylfaenol fel nwyddau groser – mae’r cyfan yn gwneud gwahaniaeth mawr.
I adeiladu ar yr haelioni rhyfeddol hwn, mae Tîm Cymunedol a Datblygu Partneriaeth Cyngor Sir Fynwy yn gofyn i unrhyw un a fedrai gynnig eu hamser i gysylltu gyda nhw. Gall y tîm ddarparu Gwiriad DBS, gwybodaeth a chanllawiau, hyfforddiant a chysylltu gwirfoddolwyr gyda phobl sydd angen cymorth. Nod y cymorth yw sicrhau fod y bobl sy’n cynnig yr help a’r rhai sy’n ei dderbyn yn teimlo’n ddiogel a chysurus wrth wneud hynny. Mae’r Tîm Cymuned a Datblygu Partneriaethau hefyd yn annog arweinwyr grwpiau gweithredu cymunedol nad ydynt wedi cysylltu â nhw eto i wneud hynny er mwyn parhau i ddatblygu’r rhwydwaith o gyfleoedd.
Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, Aelod Cabinet Cyfiawnder Cymdeithasol a Datblygu Cymunedol: “Ar adeg fel hyn, ased fwyaf Sir Fynwy yw ei phobl a’i chymunedau. Gwelsom weithredoedd hynod o garedigrwydd a chymunedau’n dod ynghyd yn hyd yn oed yn gryfach nag erioed. Diolch i bawb sy’n rhoi eu hunain a’u hamser i helpu eraill. Hoffwn annog pawb i feddwl sut y gallent helpu rhywun arall yn eich cymuned. Gall rhywbeth mor fach â galwad ffôn i gymydog oedrannus neu gynnig rhoi’r biniau allan ar gyfer y rhai sydd wedi ynysu wneud byd o wahaniaeth.”
Mae Cyngor Sir Fynwy hefyd yn cynnig cyngor i bobl a all fod yn gwirfoddoli ar bethau syml i’w gwneud a pheidio eu gwneud er mwyn cadw pawb sy’n gysylltiedig yn ddiogel.
Gwneud:
· Codi’r ffôn i sgwrsio gydag unrhyw un sy’n hunanynysu. Gofyn iddynt os ydynt angen nôl unrhyw fwyd/cyflenwadau/meddyginiaeth.
· Mynd i nôl unrhyw gyflenwadau brys neu hanfodol yn ystod eich un trip allan y diwrnod hwnnw – siopa dros bobl eraill tra’ch bod gwneud eich neges eich hun.
· Os oes ganddynt ffôn clyfar/dyfais llechen, eu dysgu sut i’w defnyddio fel y gallant weld pobl – mae gan Cymunedau Digidol Cymru dîm o hyfforddwyr arbenigol a chynghorwyr ar gael i helpu cael pobl ar-lein. Gellir cysylltu â nhw drwy ffonio 0300 111 5050
· Annog pobl i agor y ffenestr i gael awyr iach a gwrando ar yr adar.
· Dal ati i olchi eich dwylo a dilyn pob canllaw ar ymbellhau cymdeithasol h.y. aros 2 fetr ar wahân .
Peidio:
· Mynd mewn i gartrefi pobl
· Mynd o fewn 2 fetr o bobl (cnociwch ar y drws, a gadael bagiau ar garreg y drws)
· Derbyn cardiau credyd neu godi arian ar gyfer pobl nad ydych yn eu hadnabod
Mae llawer o ffyrdd i gysylltu – gofynnir i unrhyw un sy’n dymuno cynnig eu help i anfon e-bost at Partnerships@monmouthshire.gov.uk a chânt eu cyfeirio at y tîm cywir neu ffonio rhif canolog cyswllt Sir Fynwy (01633) 644696. Gall pobl hefyd gofrestru eu diddordeb drwy ourmonmouthshire.org sy’n galluogi defnyddwyr i rannu gwybodaeth, syniadau, sgiliau ac adnoddau. Mae’r llwyfan yma’n gobeithio cefnogi’r gweithredu cymunedol hwn a’i gwneud yn llawer haws cael mynediad i gynigion o help.