Yn dilyn cau Swyddfa’r Post ym Mrynbuga dros dro oherwydd cyngor y llywodraeth, bydd Cyngor Sir Fynwy yn awr yn gweithredu gwasanaeth bws am ddim ar gyfer preswylwyr i’w galluogi i gael mynediad i’r gwasanaeth yn Rhaglan.
O ddydd Llun 6 Ebrill bydd preswylwyr Brynbuga yn medru archebu lle ar y bws a fydd yn rhedeg ar ddyddiau Llun a dyddiau Mercher rhwng 10am a 12pm. Ni chaniateir mwy na phedwar o bobl ar bob trip er mwyn galluogi ymbellhau cymdeithasol.
Gall preswylwyr archebu lle drwy ffonio 0800 085801, 24 awr ymlaen llaw. Mae’r llinell archebu ar agor rhwng dyddiau Llun a dyddiau Gwener 9.00am a 4.30pm, felly bydd angen gwneud archebion ar gyfer dyddiau Llun ar ddyddiau Gwener. Cyfnod prawf yw hwn ar hyn o bryd a chaiff ei adolygu.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Jordan, Aelod Cabinet dros Hybiau Cymunedol: “Mae’n wych gweld y datrysiad blaengar hwn i sicrhau y gall preswylwyr barhau i gael mynediad i’r gwasanaethau pwysig hyn. Gwyddom fod Swyddfa’r Post yn rhaff fywyd ar gyfer pobl ar y cyfnod anodd hwn felly gobeithiwn y bydd y datrysiad dros dro hwn yn helpu’r preswylwyr hynny i barhau i ddefnyddio’r gwasanaeth.”