Er fod llawer wedi gwneud am grantiau busnes Llywodraeth Cymru a gynigir yn sgil y pandemig COVID-19, nid yw hyd at 2,000 o fusnesau a allai fod yn gymwys yn Sir Fynwy wedi llenwi eu ffurflen gais ar-lein hyd yma. Caiff y grantiau o £10,000 a £25,000 eu gweinyddu gan Gyngor Sir Fynwy a chaiff ceisiadau eu prosesu cyn gynted ag sydd modd. Mae pryderon fod busnesau wedi tybio’n anghywir y byddai’r grantiau’n cael eu gweithredu yn awtomatig. Nid felly y mae hi, ac mae’n hanfodol fod unrhyw fusnesau a allai fod yn gymwys yn gwneud cais ar-lein.
Mae Cyngor Sir Fynwy yn annog perchnogion busnes i gymryd y cam cyntaf a gwirio os ydynt yn gymwys drwy ymweld â gwefan grantiau busnes COVID-19 Llywodraeth Cymru: https://businesswales.gov.wales/covid-19-grants a gwneud cais ar-lein.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cynghori ar fwy o gefnogaeth ariannol ar gyfer y busnesau hynny nad ydynt yn gymwys am y grantiau hyn nad ydynt yn fenthyciad, ond yn grantiau nad yw’n rhaid eu dychwelyd. Mae busnesau gyda gwerth trethiannol o lai na £12,000 yn gymwys i anfon eu manylion ar-lein ar gyfer hyd at ddau safle, ar gyfer grant o £10,000 fesul safle. Gall busnesau ddal fod yn gymwys am y grant hyd yn oed os nad oes ganddynt ardrethi busnes. Mae gan y safleoedd hynny sydd â gwerth trethiannol rhwng £12,001 a £51,000 yr opsiwn o gyllid grant o £25,000 ar gyfer POB safle y talant ardrethi busnes arno.
Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, Aelod Cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am fenter: “Mae hyn yn rhaff bywyd hanfodol i fusnesau lleol ar adeg o straen difrifol. Byddwn yn eu hannog i edrych ar y wefan, gwirio os ydynt yn gymwys a gwneud cais ar unwaith. Rydym eisoes wedi cael llawer o geisiadau, ond mae’n amlwg nad oes nifer fwy o fusnesau wedi cymryd y cam cyntaf o wneud cais. Po gyntaf y gwneir hyn, y cyntaf y gall mwy o fusnesau dderbyn yr help maent yn ei haeddu a’i angen. Gofynnir i chi drosglwyddo’r neges i fusnesau eraill yn Sir Fynwy hefyd. Nid ydym eisiau i neb fynd i’r wal fel canlyniad i’r argyfwng hwn.”
Mae mwy o wybodaeth ychwanegol ar gael yn: https://www.monmouthshire.gov.uk/business-advice/