Swyddogion safonau masnach y Cyngor yn rhoi cyngor i atal sgamiau coronafeirws Mae tîm safonau masnach Sir Fynwy yn rhybuddio cymunedau’r sir rhag pobl sy’n ceisio manteisio ar y pandemig coronafeirws i gynnal sgamiau. Mae’r cyngor yn cyd-fynd â’r hyn roddwyd gan Safonau Masnach Cenedlaethol – y corff i’r Deyrnas Unedig gyfan a sefydlwyd i warchod defnyddwyr a diogelu busnesau rhag twyll. Cafwyd adroddiadau o rannau eraill o’r wlad y cafodd pobl gynnig triniaethau gwyrthiol neu frechlynnau nad ydynt yn bodoli ar gyfer coronafeirws a negeseuon e-bost ffug yn addo ad-daliad trethi er mwyn cael gwybodaeth bersonol a manylion banc drwy dwyll. Mae sgamiau eraill yn cynnwys cynnig mynd i siopa neu gasglu meddyginiaeth a gofyn am arian ymlaen llaw cyn diflannu, a phobl yn honni eu bod yn weithwyr gofal iechyd i gael mynediad i gartrefi. Mae swyddogion safonau masnach wedi rhoi’r cyngor da dilynol i breswylwyr i osgoi cael eu twyllo: • Bod yn ofalus a dilyn eich greddf. Peidiwch bod anghofio rhoi’r ffôn i lawr, binio, dileu neu gau’r drws. • Cymryd eich amser; peidio cael eich ruthro. • Os yw rhywun yn honni eu bod yn cynrychioli elusen, gofyn iddynt am ddull adnabod. Byddwch yn amheus am geisiadau am arian ymlaen llaw. Holwch berthnasau a chyfeillion cyn derbyn cynigion o help os ydych yn ansicr. • Os ydych ar-lein, dylech fod yn ymwybodol o newyddion ffug a defnyddio ffynonellau dibynadwy tebyg i wefannau .gov.uk neu NHS.uk. Peidiwch clicio ar ddolenni mewn negeseuon e-bost. • Dim ond prynu nwyddau gan fanwerthwyr dilys a chymryd eiliad i feddwl cyn rhoi arian neu wybodaeth bersonol. • Gwybod gyda phwy yr ydych yn delio – os ydych angen help, siaradwch gyda rhywun yr ydych yn ei adnabod neu gysylltu gyda’ch gwasanaeth safonau masnach lleol. • Gwarchod eich gwybodaeth ariannol, yn arbennig rhag pobl nad ydych yn eu hadnabod. Peidiwch byth â rhoi eich cerdyn banc neu PIN i rywun dieithr. Dylai preswylwyr sy’n credu iddynt gael eu sgamio gysylltu ag Action Fraud ar 0300 123 2040. Os ydynt angen cyngor, dylent ffonio Llinell Gymorth Defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth ar 0808 223 1133. Dylai pobl gysylltu â’u banc os credant y cafodd eu cyfrifon eu peryglu. Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am safonau masnach: “Mae’r pandemig coronafeirws wedi dangos llawer o bobl dda a gynigiodd eu gwasanaethau er budd cymdeithas ond dylai pobl y sir fod yn ymwybodol na fedrir ymddiried ym mhawb sydd allan yna. Bydd rhai yn manteisio ar y sefyllfa anarferol sydd yn ein hwynebu ar hyn o bryd. Yn gyffredinol, dylem fod yn ofalus ac os oes cynnig annisgwyl yn swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod yn rhy dda i fod yn wir.”