Cyngor Sir Fynwy yn rhannu cynlluniau i gefnogi busnesau bach Gyda’r wlad yn cymryd camau i geisio cyfyngu’r coronafeirws gyda phobl yn aros adre a llawer o fusnesau bach yn cau ar unwaith, datblygwyd cynlluniau i helpu’r mentrau hyn i barhau i fasnachu unwaith y bydd y pandemig drosodd. Bydd Cyngor Sir Fynwy yn gweinyddu grantiau Busnes Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, dim ond rhai sy’n talu ardrethi busnes sy’n gymwys ar hyn o bryd – i gael manylion gweler https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice. I wneud cais ewch i: https://www.monmouthshire.gov.uk/business-advice/ Bydd Llywodraeth Cymru yn hysbysu am gymorth ariannol pellach ar gyfer y busnesau hynny nad ydynt yn gymwys am y grantiau hyn a rhannir gwybodaeth ar wefan Cyngor Sir Fynwy pan maent ar gael – mae’r cyngor yn dweud y bydd yn werth nodi tudalen y wefan i gyfeirio ati yn y dyfodol. Negeseuon allweddol: Er mwyn talu’r grant, mae angen i’r cyngor wybod am y manylion cyswllt, manylion banc a manylion perthnasol eraill busnesau’r sir. Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: “I’n helpu ni i’ch helpu chi, gofynnir i chi lenwi’r ffurflen cofrestru busnes fel mater o frys. Gallwn dalu i chi’n uniongyrchol cyn gynted ag y daw’r grantiau ar gael.” Mae crynodeb cyflym o’r grantiau sydd ar gael fel sy’n dilyn: • Bydd grant o £25,000 ar gael i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth trethiannol rhwng £12,000 a £51,000. • Bydd grant o £10,000 ar gael i bob busnes sy’n gymwys am Ryddhad Ardrethi Busnes Bach gyda gwerth trethiannol o £12,000 neu lai. • Cyhoeddir cynllun a chyllid ar wahân yr wythnos nesaf ar gyfer y busnesau hynny sy’n seiliedig yn y cartref, ac yn y blaen. Unwaith eto bydd y cyngor yn diweddaru ei wefan gyda’r wybodaeth cyn gynted ag mae ar gael. • Yn ychwanegol, mae busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn derbyn 100% o ryddhad ardrethi busnes ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21. Byddant eisoes wedi derbyn eu biliau ardrethi ar gyfer 2020/21 am eleni gan y gwnaed cyhoeddiad y llywodraeth ar ôl i’r biliau gael eu cynhyrchu. Ychwanegodd y llefarydd: “Peidiwch pryderu, bydd y cyngor yn gweithredu’r rhyddhad a chaiff eich cyfrif ei gredydu’n awtomatig. Anfonir bil ardrethi newydd atoch yn fuan.” • Bydd cymorth hefyd ar gael i alluogi busnesau i dalu 80% o gyflogau eu gweithwyr cyflogedig yn seiliedig ar ddalenni cyflog mis Chwefror – bydd manylion pellach yn dilyn. • Cyhoeddwyd Cynllun Benthyciad Ymyriad Busnes Coronafeirws a gynlluniwyd i gynorthwyo busnesau sy’n cymhwyso yn ystod y cyfnod yma na welwyd erioed ei debyg. Mae’r cynllun hefyd ar gael i gefnogi busnesau hyfyw hirdymor y gall fod angen iddynt ymateb i bwysau llif arian gan geisio cyllid ychwanegol. Caiff y benthyciad ei ddarparu gan Fanc Busnes Prydain drwy ddarparwyr sy’n cymryd rhan yn ystod argyfwng Covid-19. Chwiliwch wefan Busnes Cymru i gael mwy o wybodaeth. • Mae cronfa newydd o £500,000 ar gael i gwmnïau technoleg sy’n darparu datrysiadau cymorth digidol i bobl sydd angen iddynt aros adre oherwydd coronafeirws. Chwiliwch her ‘Techforce19’ i gael mwy o wybodaeth – mae cyllid o hyd at £25,000 fesul cwmni ar gael. • Mae Busnes Cymru hefyd yn cynnig gweminarau sydd wedi eu hanelu at fusnesau bach a chanolig yng Nghymru y mae argyfwng Covid-19 wedi effeithio arnynt. Mae cyfres ‘Covid-19 a’ch Busnes’ yn cynnwys pynciau allweddol i gynorthwyo pob perchennog busnes a masnachwr unigol sydd eisiau lleihau effaith y feirws a gwella goroesedd eu mentrau. I gofrestru, ymunwch â gwefan Busnes Cymru. Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, aelod cabinet Cyngor Sir Fynwy yn gyfrifol am fenter: “Gwyddom fod hwn yn amser gofidus iawn i bawb. Hoffwn ddiolch i fusnesau bach Sir Fynwy ar gyfer cefnogi’r wlad drwy aros yn ddiogel ac aros adre. Mae gwahanol opsiynau ar gael i helpu busnesau i ymdopi gyda’r heriau i ddod. Cysylltwch â ni, rydym yma i helpu.” Ychwanegodd: “Peidiwch anghofio, mae pethau y gallwn i gyd eu gwneud i helpu ein busnesau lleol i aros ar agor. Lle gallwch, prynwch yn lleol ar-lein. Mae llawer o’n caffes, tafarndai a bwytai hefyd yn cynnig gwasanaeth bwyd i fynd a gwasanaeth dosbarthu felly beth am gymryd saib o’r cwpwrdd bwydydd ac ymlacio a chynorthwyo busnes lleol wrth wneud hynny.”