Bydd busnesau yng Nghymru sy’n cael eu heffeithio gan ledaeniad cyflym feirws Omicron yn gymwys i gael cymorth ariannol brys o dan becyn cymorth newydd gan Lywodraeth Cymru.
Yn anffodus, mae’r Gronfa Brys Ardrethi Annomestig Argyfwng a’r Gronfa Argyfwng Busnes bellach ar gau i geisiadau newydd.
Ar 22ain Rhagfyr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd pecyn ariannu gwerth cyfanswm o £120m ar gael i gefnogi busnesau y mae’r cyfyngiadau diweddaraf yn effeithio arnynt. Os yw eich busnes yn gweithredu yn y sectorau lletygarwch, manwerthu, twristiaeth a hamdden neu os yw’n fusnes cadwyn gyflenwi sy’n cyflenwi’r sectorau hyn, efallai y byddwch yn gymwys i gael grant.
Os caiff eich busnes ei raddio ar gyfer ardrethi busnes, bydd y grantiau canlynol ar gael:
- Grant o £2,000 ar gyfer busnesau sydd â gwerth ardrethol o dan £12,000 ac sy’n derbyn Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach
- Grant o £4,000 ar gyfer busnesau sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000
- Grant o £6,000 ar gyfer busnesau sydd â gwerth ardrethol rhwng £51,001 a £500,000
Cynghorir busnesau i wirio cymhwysedd cyn cofrestru ar gyfer y grant drwy adolygu canllawiau’r cynllun:
Os ydych yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y grant, mae’n ofynnol i fusnesau gofrestru drwy gwblhau ffurflen fer ar-lein.
Bydd y cynllun yn parhau i fod ar agor i geisiadau tan 5pm Ddydd Llun 14eg Chwefror 2022. Ni chaiff ffurflenni cofrestru, sy’n dod i law ar ôl y dyddiad hwn, eu derbyn.”
Ar gyfer busnesau sydd heb gofrestru ar gyfer Ardrethi Busnes, y Gronfa Argyfwng Busnes ar gael. Bydd hyn yn cynnig grantiau o naill ai £1,000 i fusnesau nad ydynt yn cyflogi unrhyw un ar wahân i’r perchennog neu £2,000 i fusnesau sy’n cyflogi. Geisiadau agor am y grant hwn am 9.00am Ddydd Iau 20fed Ionawr 2022.
Cynghorir busnesau i wirio cymhwysedd cyn cofrestru ar gyfer y grant drwy adolygu canllawiau’r cynllun:
Gronfa Argyfwng Busnes – Nodiadau Cyfarwyddyd
Nodwch nad yw busnesau’n gymwys ar gyfer y Grantiau Ardrethi Busnes a’r Gronfa Argyfwndg Busnes, dim ond yn naill neu’r llall.
Yn dibynnu ar faint y busnes, efallai y bydd cyllid ychwanegol hefyd ar gael o Gronfa Cadernid Economaidd newydd. Mae grantiau rhwng £ 2,500 a £ 25,000 ar gael trwy Business Wales, gyda cheisiadau nawr yn agor yn: https://fundchecker.businesswales.gov.wales/businesssupport/cy/
Mae gwiriwr cymhwysedd i helpu busnesau i nodi grantiau y gallent fod yn gymwys i’w cael ar gael hefyd ar wefan Busnes Cymru drwy ddefnyddio’r ddolen hon https://fundchecker.businesswales.gov.wales/businesssupport/cy/
Cymorth arall sydd ar gael:
Cymorth gan Rwydweithiau Busnes Lleol
Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio’n agos gyda chynrychiolwyr busnes lleol y sir a byddai pob un ohonynt yn hapus i helpu gydag unrhyw ymholiadau busnes unigol a all fod gennych. Isod ceir rhestr o gysylltiadau a’r ardaloedd maent yn eu cynrychioli:
- Cymuned Fusnes Y Fenni – Lucy Hywel – lucy@thatslovelythat.com
- Tîm Tref Cil-y-coed – Aaron Reekes – caldicottownteam@outlook.com
- Siambr Fasnach Cas-gwent – Dr Sue Kingdom – secretary@chepstowchamber.com
- Siambr Fasnach Trefynwy – Sher McCabe-Finlayson – secretary@monmouthchamber.co.uk
Llinell Gymorth Treth Cyllid a Thollau EM
Os ydych fel cyflogwr yn cael anawsterau gyda’ch treth busnes, dilynwch y ddolen islaw i gael canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.