Mae Cyngor Sir Fynwy wedi penderfynu cau Theatr Borough y Fenni dros dro ynghyd â’r amgueddfeydd a gaiff eu rhedeg ganddynt yn dilyn cyngor gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i osgoi unrhyw gysylltiad cymdeithasol diangen.
Caiff a sioeau oedd i’w cynnal yn Theatr Borough eu gohirio ar unwaith tan o leiaf 30 Ebrill.
Bydd amgueddfeydd yn y Fenni, Cas-gwent a Threfynwy yn cau ddydd Iau 19 Mawrth tan hysbysiad pellach.
Cysylltir â chwsmeriaid am ganslo a gohirio digwyddiadau. Mae’r timau wrthi’n cysylltu â phobl yn nhrefn calendr y sioeau a gofynnir i gwsmeriaid fod yn amyneddgar tra bydd y timau yn gweithio drwy’r holl alwadau.
Er fod y sefyllfa’n newid ac yn datblygu drwy’r amser, mae llawer o wasanaethau allweddol y cyngor yn parhau ar agor yn cynnwys yr hybiau cymunedol a chanolfannau hamdden.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Jordan, sy’n gyfrifol am amgueddfeydd a Theatr Borough: “Deallwn y bydd y penderfyniad i gau ein hamgueddfeydd a Theatr Borough yn siom ond iechyd a diogelwch ein cymunedau yw ein prif flaenoriaeth. Rydym yn dal i gadw golwg ar y sefyllfa ac anelwn ailagor y gwasanaethau hyn cyn gynted ag mae’n addas gwneud hynny. Mae hwn yn gyfnod na welwyd ei debyg a lles a diogelwch ein cwsmeriaid a’n staff sydd bwysicaf oll wrth wneud y penderfyniad hwn. Gwerthfawrogwn eich cefnogaeth ac edrychwn ymlaen at eich croesawu’n ôl i Theatr Borough y Fenni eto’n fuan iawn.”