Oherwydd y newid yn yr amgylchiadau yn ymwneud â COVID-19 ac yn dilyn cyhoeddiad ddoe gan y Llywodraeth, gwnaed y penderfyniad i ohirio digwyddiadau ymgysylltu y Cynllun Datblygu Lleol tan hysbysiad pellach. Mae’r cyfnod ymgynghori a chyfle i gyflwyno safleoedd ymgeisiol yn parhau ar agor, ond caiff y dyddiad cau ei ymestyn yn unol â hynny. Byddwn yn aildrefnu’r digwyddiadau na chynhaliwyd hyd yma ac yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r dyddiad cau newydd maes o law.