Fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod 2020, cynhaliodd Ysgol Gyfun Brenin Harri VIII yn y Fenni weithdai ar gyfer ei myfyrwyr Blwyddyn 9. Lansiwyd y digwyddiad gan Rhiannon Taylor o Ysbrydoli Sir Fynwy drwy roi ciplun i’r myfyrwyr ar faterion cydraddoldeb. “Ar draws y byd, ni fydd tua 15 miliwn o ferched yn cael addysg, tra bod y ffigur ar gyfer bechgyn yn 10 miliwn. O’r 585 Gwobr Nobel a ddyfarnwyd ar gyfer economeg a gwyddoniaeth, dim ond 49 gafodd eu dyfarnu i fenywod. Mae pethau’n gwella ond mae gwaith yn dal i’w wneud”, meddai.
Daeth y digwyddiad â siaradwyr ysbrydoledig ynghyd i helpu menywod ifanc ystyried eu huchelgais ar gyfer y dyfodol a chael ymdeimlad o rymuso. Roeddent yn cynnwys Jayne Brown, o Syniadau Mawr Cymru, a siaradodd am lwybr ei gyrfa. Mae hyn wedi cynnwys gweithio fel hyfforddwr sgïo, hyfforddwr ffitrwydd ac ymuno â phrosiectau cadwraeth. “Os helpwn ein gilydd, fel menywod, gallwn wneud unrhyw beth,” esboniodd. “Penderfynwch ar yr hyn rydych eisiau ei wneud, a gwybod y gallwch wneud hynny”. Dylai unrhyw athro neu bennaeth ysgol, coleg neu brifysgol a hoffai fodel rôl i ddod i siarad gyda nhw ymweld â gwefan Syniadau Mawr Cymru.
Dywedodd Mandy St John Davey, datblygydd eiddo llwyddiannus: “Merch o’r Cymoedd ydw i. Cymerais bob her, heb ddweud na i ddim”. Fel Cadeirydd Cenedlaethol Menywod mewn Eiddo, mae Mandy yn gweithio gyda menywod yn y diwydiant adeiladu. Wrth esbonio potensial gyrfaoedd megis dod yn beiriannydd, pensaer, cyfreithiwr neu yn y diwydiant adeiladu dywedodd: “Byddwch y newid, gwnewch eich marc. Gallwch fod yn unrhyw beth y dymunwch fod. Mae’r byd wrth eich traed. Yn bwysicaf oll, cofiwch eich gwerth bob amser.”
Yn ychwanegol at dîm o Bywyd Mynwy, a siaradodd gyda’r myfyrwyr am yr addewidion y dymunent eu gwneud i’w hunain, megis bod yn fwy caredig, bod yn hapusach a dilyn eu nod gyrfa, roedd yr ymladdwr tân Kelly Christopher o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru hefyd yn bresennol i rannu ei phrofiadau. Siaradodd gyda’r myfyrwyr am fywyd fel menyw yn ymladdwr tân, swydd lle mae’r rhan fwyaf o ddigon yn ddynion, gan esbonio ei bod yn gwneud yn union yr un gwaith ac yn ei gael yn werth chweil iawn.
Dywedodd y Cyng Sara Jones, Aelod Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol: “Rwy’n teimlo’n wirioneddol falch i fyw mewn sir lle gall pobl gyflawni eu huchelgais, beth bynnag yw hynny – gyrfa, chwaraeon, gwirfoddoli – mae’n rhestr faith. Roedd digwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol Menywod yn wych, gyda llawer o gyngor i bobl ifanc am sut i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Rwy’n gobeithio y bydd y menywod ifanc a gymerodd ran yn y gweithdai heddiw yn teimlo eu bod wedi eu hysbrydoli i ddilyn eu breuddwydion – beth bynnag ydynt. Rwy’n llwyr gefnogi ymgyrch Diwrnod Rhyngwladol Menywod eleni sy’n ymroddedig i adeiladu byd cytbwys ar gyfer y rhywiau. Mae gan bawb ran i’w chwarae.”
Diwrnod Rhyngwladol Menywod 2020
Thema Diwrnod Rhyngwladol Menywod eleni, ar 8 Mawrth, oedd #EachforEqual, yn amlygu’r ymgyrch am gydraddoldeb. Cafodd pobl eu hannog i weithio am gydraddoldeb #EachforEqual. Mae’r ras ymlaen am ystafell bwrdd gyfartal o ran y rhywiau, llywodraeth gyfartal o ran y rhywiau, sylw cyfartal o ran rhywiau ar y cyfryngau, gweithleoedd cyfartal o ran y rhywiau, sylw cyfartal o ran y rhywiau i chwaraeon, mwy o gydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn iechyd a chyfoeth … felly gadewch i ni wneud iddo ddigwydd. Gadewch i ni fod yn #EachforEqual.