Caiff cartrefi yn Sir Fynwy eu hannog i wneud cais am gyllid ar gyfer gwelliannau rhad ac am ddim i wella effeithlonrwydd ynni.
Mae newidiadau diweddar i’r cymhwyster am y grant Cwmni Ynni yn golygu y bydd cyllid yn awr ar gael i nifer fwy o gartrefi ar draws y sir.
Mae’r newidiadau yn golygu nad oes angen i bobl mwyach fod yn derbyn budd-daliadau, ond mae angen iddynt fod ar incwm isel. Rhaid i unrhyw un sy’n dymuno wneud cais un ai fyw mewn cartref drud i’w wresogi neu fod yn fregus i effeithiau byw mewn cartref oer.
Gall y rhai y bernir eu bod yn fregus oherwydd eu bod yn byw mewn cartref oer fod â nifer o gyflyrau meddygol neu anabledd. Caiff unrhyw un dan 5 oed neu dros 60 oed eu hystyried yn fregus i effeithiau cartref oer.
Gwneir yr asesiadau incwm yn ddibynnol ar bwy sy’n byw yn y cartref. Ni all oedolyn sengl fod yn ennill dros £9,300 i gael eu hystyried ar gyfer y cyllid, ac ni all teulu o ddau oedolyn a dau blentyn fod yn ennill dros £26,800. Cymerir y ffigurau hyn ar ôl tynnu costau tai tebyg i forgais, rhent a threth gyngor.
Ynghyd â chynyddu insiwleiddio atig ac insiwleiddio wal ceudod, efallai y gall bobl gymwys gael boeler newydd a mwy effeithiol yn lle boeler sydd wedi torri neu foeler hen ac aneffeithiol.
I wneud cais, neu wirio cymhwyster cysylltwch â’r Ganolfan Cyngor Ynni, partner elusen Cyngor Sir Fynwy, yng Nghasnewydd ar rhadffôn 0800 6226110.Os ydych yn gymwys, bydd eu cynghorwyr yn trefnu arolwg rhad ac am ddim a heb oblygiad. Mae mwy o fanylion am y cynllun a’r meini prawf cymhwyster ar gael yn www.sewenergy.org.uk.
Mae’r cynllun ar agor i berchnogion tai preifat a rhai sy’n rhentu’n breifat. Mae’r grantiau yn amodol ar arolwg, cymhwyster ac argaeledd cyllid, gyda’r penderfyniad terfynol gyda’r cwmnïau ynni sy’n cefnogi’r cynllun.