Mae rhai disgyblion gyda dyslecsia a chyflyrau cysylltiedig fel dyspracsia yn canfod y gall yr anawsterau sy’n gysylltiedig gyda llawysgrifen lesteirio eu gallu i strwythuro ac ysgrifennu darn o waith. Gall y llawysgrifen ei hunan fynd â gormod o ganolbwyntio ac ymdrech.
Gall addysgu sgiliau teipio cyffwrdd a galluogi disgyblion i ddefnyddio cyfrifiadur ar gyfer gwaith ysgrifenedig ganiatáu mwy o ganolbwyntio ar gynnwys y darn.
Ar lefel uwchradd, gall hyn achosi gwelliant sylweddol mewn graddau arholiad
Beth sy’n gwneud tiwtor teipio yn ‘gyfeillgar i ddyslecsia’?
Mae’n bwysig fod unrhyw feddalwedd a anelwyd at ddyslecsia yn defnyddio dull amlsynhwyraidd. I diwtoriaid teipio mae hyn yn golygu cael cyfarwyddiadau testun yn ogystal â sain, gyda llun o’r bysellfwrdd ar sgrin bob amser. Os nad oes opsiynau sain, yna mae’n ddefnyddiol medru defnyddio rhaglenni testun-i-leferydd i ddarllen y cyfarwyddiadau yn uchel. Nodweddion eraill i edrych amdanynt mewn tiwtor teipio cyfeillgar i ddyslecsia yw:
Defnyddio geiriau go iawn cyn belled ag sy’n bosibl. Drwy eu natur, mae rhaglenni teipio yn ailadroddus ac, yn neilltuol ar y camau cynharaf, yn cyfyngu nifer y llythyrau a gaiff eu teipio. Mae hyn yn golygu fod llawer o raglenni’n gwneud i ddefnyddwyr deipio geiriau nonsens. Dylid osgoi hyn gyda defnyddwyr dyslecsig gan y bydd, os unrhyw beth, yn cael effaith negyddol ar eu sillafu. Bydd rhai o’r rhaglenni teipio a werthir yn gwneud i ddefnyddwyr deipio geiriau sy’n swnio’n debyg gyda’i gilydd. Mae hyn yn cadarnhau patrymau sillafu a gallant gael effaith gadarnhaol.
Peidiwch gorlwytho’r defnyddiwr drwy geisio dysgu gormod o sgiliau iddynt ar unwaith. Mae tair sgil mewn teipio cyffwrdd – adnabod cynllun y bysellfwrdd, teipio’n gywir a medru teipio’n gyflym. Mae rhai rhaglenni’n ceisio cael y defnyddiwr i ddatblygu pob un o’r 3 sgil ar unwaith mewn cyfnod byr. Nid yw gorlwytho’r defnyddiwr gyda chyfarwyddiadau a gorchmynion yn y modd hwn yn ddefnyddiol i ddefnyddwyr dyslecsig.
Mae gwersi rhyngweithiol ond byr yn cadw diddordeb y defnyddiwr. Mae llawer o blant dyslecsig ac oedolion yn ei chael yn anodd canolbwyntio am gyfnodau hir. Mae angen llawer o ganolbwyntio i ddysgu teipio felly rydym yn ceisio dweud pa mor hir y bydd angen i ddefnyddwyr gadw eu ffocws. Os yw gwersi’n rhyngweithiol a hwyliog, maent yn debygol o gadw sylw defnyddwyr iau am fwy o amser.
Mae gan gynllun sgrin taclus ddarlun o’r bysellfwrdd yn amlwg bob amser. Os oes gormod o bethau i dynnu sylw ar y sgrin, megis eitemau’n symud neu fotymau i’w pwyso, bydd defnyddwyr yn ei chael yn anodd canolbwyntio ar y dasg dan sylw. Mae cael bysellfwrdd i’w weld ar y sgrin yn helpu gyda dysgu i deipio. Bydd llawer o blant dyslecsig ac oedolion yn cymryd mwy o amser i ddatblygu sgiliau bysellfwrdd oherwydd nifer y sgiliau y mae’n rhaid iddynt weithredu ar unwaith yn gorlwytho eu cof gwaith fel ei bod yn rhaid trosglwyddo sgiliau i’r cof hirdymor cyn y gellir eu defnyddio’n llwyddiannus.
Touch Type Read and Spell (TTRS) readandspell.com. Mae TTRS yn gwrs amlsynhwyraidd sy’n addysgu teipio cyffwrdd i helpu plant ac oedolion i wella eu sgiliau darllen a sillafu.
Mae’r rhaglen yn amlsynhwyraidd drwy fod yn defnyddio synhwyrau gweledol, sain a cinesthetig (cyffwrdd).
Mae’n strwythuredig iawn – yn seiliedig ar restri geiriau ‘Alpha i Omega’ a gwaith ‘Orton a Gillingham’.
Mae’n fodwlar – Cynlluniwyd pob model i fod yn fyr gydag adborth cadarnhaol, rheolaidd.
Cefnogaeth opsiynol gan diwtor – Gallwch atodi eich dysgu gyda thiwtor wedi’i hyfforddi mewn TTRS.
Lefelau lluosog o anhawster – mae gan TTRS 24 lefel, bob un gyda 31 modiwl. Mae pob 5ed modiwl yn “fodiwl arddweud” sy’n dibynnu ar yr elfen sain i gadarnhau dysgu.
Dyluniad addasol – medrir addasu lliwiau, ffontiau a dyluniadau i’r dysgwr i ddiwallu pob angen unigol.
Defnyddio ym mhob rhan o’r byd – defnyddir gan gymdeithasau dyslecsia ym mhob rhan o’r byd, yn cynnwys Cymdeithas Ddyslecsia Brydeinig.
Oedran: 7-14 Gosodiad: Cartref neu ysgol Gosodiadau athrawon: Oes Nifer gwersi: 5 Hyd cyfartalog y wers: 3 – 10 munud Nifer gemau: 9
Datblygwyd Nessy Fingers o raglen boblogaidd Nessy Learning ac mae’n cynnwys llawer o nodweddion sy’n ei gwneud yn neilltuol o addas ar gyfer myfyrwyr dyslecsig. Mae Nessy Fingers yn canolbwyntio ar addysgu cynllun y bysellfwrdd drwy’r wyddor mewn 5 gwers fer. Mae’r dull unigryw yma’n galluogi dysgu cyflym ac yn cadw cymhelliant myfyrwyr. Mae defnyddio’r wyddor yn rhoi strwythur dysgu rhesymegol a chyfarwydd ac yn cyfnerthu dilyniant yr wyddor, tra bod y ffontiau a ddewiswyd yn ofalus a’r dewis eang o opsiynau arddangos yn gallu’r rhaglen i gael ei haddasu i anghenion myfyriwr unigol.
Unwaith y bydd y gwersi wedi eu cwblhau, gall myfyrwyr gael mynediad i 9 gêm ddifyr a lliwgar i ymarfer eu sgiliau. Mae’r “Skillometer” a’r Hall of Fame yn olrhain cynnydd ac yn rhoi gwobrau gan annog a chymell y myfyrwyr. Mae Nessy Fingers yn cynnwys 233 o restri geiriau, yn cynnwys rhai o raglen Nessy Learning. Mae geiriau’n dod yn gynyddol anos er mwyn gwella sillafu ac atalnodi sylfaenol. Gellir creu rhestri geiriau a brawddegau newydd a gall myfyrwyr ychwanegu eu cerddoriaeth eu hunain i fynd i rythm teipio wrth iddynt chwarae’r gemau. Yn gyffredinol mae Nessy Fingers yn rhoi amgylchedd hwyliog a diddorol i ddatblygu sgiliau gan gadarnhau sgiliau sillafu.
TypeQuick for Students
Oed: 7-14 Gosodiad: Ysgol neu gartref Gosodiad athro: Cyfyngedig – gall osod nod cyflymder teipio. Nifer gwersi: 10. Wyth ar gynllun y bysellfwrdd, un yn gwella cyflymder ac un yn gwella cywirdeb. Dilynir hyn gan yr “Her Frenhinol” ar gyfer gwella cyflymder a chywirdeb. Hyd cyfartalog y gwersi: 20-30 munud
Nifer gemau: Heriau a gweithgareddau drwy gydol y gwersi
Mae TypeQuick yn rhaglen deipio o Awstralia ar gyfer plant. Yn seiliedig ar gymeriad o’r enw Kewala, mae’n dysgu teipio pan fyddwch chi a Kewala yn teithio o amgylch Awstralia. Gellir teilwra gwersi i fyfyrwyr unigol gyda nifer o adroddiadau a graffiau ar gynnydd myfyrwyr. Mae 10 wersi i fynd â chi drwy’r holl fyselleddau yna’n profi eich cyflymder a chywirdeb. Mae’r dylunwaith a’r gweithgareddau straeon yn y rhaglen yn ei gwneud yn ddifyr iawn i blant. Fodd bynnag mae pob gwers yn cymryd rhwng 20 a 30 munud ac os caiff y rhaglen ei stopio cyn i’r wers ddod i ben, yna ni chaiff cynnydd y myfyriwr ei gofnodi. Gall hyn ei wneud yn anaddas ar gyfer plant sy’n ei chael yn anodd canolbwyntio am y cyfnod.
Typing Instructor Deluxe
Oed: 7+ Gosodiad: Cartref. Gellir ei ddefnyddio mewn amgylchedd ysgol ond mae’r swyddogaethau rheoli yn gyfyngedig. Gosodiad athro: Dim a dim gosodiadau ar gyfer gwneud i ddefnyddiwr ddilyn patrwm gwers. Nifer gwersi: 15 cynllun gwers. Hyd cyfartalog gwers: 10 nifer Nifer gemau: 10, a dros 300 erthygl ar gyfer ymarfer sgiliau teipio
Mae Typing Instructor Deluve yn defnyddio cyfuniad o wersi a gemau i addysgu teipio. Mae’n addas ar gyfer pob lefel o deipydd gyda phrawf sgiliau ar gael i ddynodi’r lefel orau i’w defnyddio. Nid oes llwybr strwythuredig drwy’r rhaglen felly gall y defnyddiwr ddewis pa elfen y dymunant ei defnyddio – p’un ai yw’n erthyglau ymarfer neu gemau i wella sgiliau neu drwy fynd at wers ar gyfer bysell neilltuol y maent yn cael problemau’i gyda hi. Mae’n llai addas mewn amgylchedd addysgu gan nad oes unrhyw ffordd o gyfarwyddo’r defnyddiwr i lefel neu weithgaredd neilltuol. Mae’n rhaglen ardderchog i oedolion ar gyfer gwella ac yna ddychwelyd i ymarfer eu sgiliau teipio drwy’r gemau neu’r erthyglau ymarfer.
Oed: 7 oed + Gosodiad: Cartref. Gellir ei defnyddio mewn amgylchedd ysgol ond swyddogaethau rheoli cyfyngedig. Gosodiad athro: Dim ac nid oes unrhyw osodiadau i wneud i ddefnyddiwr ddilyn patrwm gwers neilltuol. Nifer gwersi: 5 cam i ddysgu’r bysellfwrdd, a ddilynir gan adran cywirdeb ac adran cynyddu cyflymder. Hyd cyfartalog y wers: 90 munud i ddysgu cynllun y bysellfwrdd (gellir ei rannu yn 5 gwers 20 munud yr un), ac yna adrannau yn dilyn ar gyfer gwella cywirdeb a chyflymder. Nifer gemau: dim.
Mae KAZ typing tutor yn gynnyrch hyfforddiant bysellfwrdd Prydeinig poblogaidd sy’n defnyddio dull tri cham i ddysgu teipio cyffwrdd. Yn y cam cyntaf mae KAZ yn eich gwneud yn gyfarwydd yn gyflym gyda’r bysellfwrdd yn defnyddio pum ymadrodd clyfar. Ar ôl hyn mae’r defnyddiwr yn symud ymlaen i gam cywirdeb lle mae’r defnyddiwr yn ymarfer teipio ar eiriau unigol yn gyntaf, wedyn frawddegau, yna baragraffau. Yn olaf mae adran adeiladu cyflymder lle caiff cyflymder a chywirdeb y defnyddiwr ei brofi yn defnyddio brawddegau addas ar gyfer eu lefel ddarllen.
Yn wahanol i diwtoriaid teipio eraill, dim ond geiriau go iawn y mae KAZ yn eu defnyddio ar gyfer addysgu teipio sy’n ei wneud yn gyfeillgar iawn i rai â dyslecsia. Mae’r cyfarwyddiadau ar gael un ai fel testun ar y sgrin neu fel lleferydd ond mae’n rhaid dewis hyn adeg ei osod. Gan y gall y defnyddiwr symud ymlaen drwy’r rhaglen yn gyflym a neidio o adran i adran, mae’n neilltuol o dda ar gyfer defnyddwyr sydd eisoes â rhai sgiliau bysellfwrdd sylfaenol. Er nad yw Kaz yn cynnwys unrhyw gemau neu heriau ar gyfer ymarfer sgiliau teipio, gwelir fod hyn yn fanteisiol i oedolion sy’n eu defnyddio sy’n eu cael yn ymyrryd ar ddatblygu eu sgiliau.