Goleuadau Stryd – Cynnydd Prisiau Ynni
Mae costau prisiau ynni wedi cynyddu, gan arwain at gynnydd yn y gost o ddarparu’r gwasanaeth. Byddwn yn parhau i wneud arbedion ynni. Rydym wedi cyflwyno goleuadau LED, fodd bynnag mae pwysau’n parhau ar y gyllideb.
Taliadau priffyrdd
Mae incwm a chyllid grant yn is na’r disgwyl. Lle’n bosibl byddwn yn ceisio llacio peth o’r pwysau hyn drwy gynnydd yn y ffioedd am wasanaethau neilltuol ac edrych am gyfleoedd cyllid grant ychwanegol.