Rheoli’r pwysau cyllideb o fewn Gwasanaethau Plant
Mae mwy o blant yn dod i’n gofal, llawer gydag anghenion cymhleth. Mae’n gostus iawn i gefnogi’r bobl ifanc hyn oherwydd natur cymhleth y gefnogaeth maent ei hangen. Bydd anghenion emosiynol a iechyd meddwl pobl ifanc yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol. Mae’r cynnydd hwn mewn galw nid yn unig yn codi costau darpariaeth ond hefyd yr holl gostau cefnogaeth megis cyswllt, cyfreithiol, staffio a chludiant tu hwnt i’r lefel a gynhwysir o fewn y gyllideb bresennol.
Oedolion gydag Anableddau
Bu cynnydd mawr yn nifer y lleoliadau gofal cost uchel nid yn unig ar gyfer yr henoed ond hefyd ar gyfer oedolion ifanc yn symud o gefnogaeth Gwasanaethau Plant i leoliadau oedolion. Mae hyn wedi arwain at i gostau fynd tu hwnt i’r gyllideb bresennol. Rydym yn parhau i geisio cyllid Gofal Iechyd Parhaus GIG lle bynnag sy’n bosibl i helpu ateb y costau ychwanegol hyn tra hefyd yn edrych ar gyfleoedd i ostwng costau byw drwy safleoedd rhent is ac addasu cyllidebau lle’n bosibl.
Darpariaeth Gwasanaethau Oedolion
Mae gennym boblogaeth sy’n heneiddio’n gyflym a phobl gydag anghenion gofal cymhleth. Mae’n cael effaith na fedrir ei osgoi ar ein cyllideb ond mae angen i ni sianelu arian i’r maes hwn. Gwelsom gynnydd yn lefel capasiti darparwyr gofal yn y sir i ateb galwadau nifer cynyddol o bobl sy’n aros am wasanaethau gofal yn y cartref. Cynigiwn weithio mewn partneriaeth gyda’n partneriaid i edrych sut y gallwn ymateb i’r her hon. Rydym wedi cynllunio model gofal newydd a elwir Troi’r Byd a’i Ben i Lawr. Mae’n canolbwyntio ar ddarparu cymorth yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig ac yn adeiladu ar rwydweithiau presennol ac asedau cymunedol.
Contractau Gwasanaethau Oedolion
Severn View, Cas-gwent
Oherwydd yr adolygiad diweddar gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan o gostau ar gyfer gwelyau yn Severn View, Cas-gwent, mae’r Cyngor yn awr yn gorfod talu mwy am welyau yn Severn View. Ni fydd y cynnydd mewn costau yn cael unrhyw effaith ar lefel y gofal a gaiff cleifion.