Pensiynau Athrawon a Chynnydd Cyflog
Penderfynwyd cynyddu’r cyfraniad cyflogwyr yn dilyn gwerthusiad diweddar o’r pensiwn athrawon yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Oherwydd hyn, mae Cyngor Sir Fynwy yn gorfod cyfrannu at y cynnydd ym mhensiwn a cyflogau athrawon. Mae hyn yn gost na all y cyngor ei osgoi.
Disgwylir y bydd y cynnydd pensiynau rhwng 16.5% a 23.6%.
Yn ogystal â hyn mae cynnydd cyflog cyfartalog o 2.7% ar gyfer athrawon, sy’n uwch na’r cyllid y darparwyd ar ei gyfer eisoes yn y cynllun ariannol tymor canol. Bydd y cynnig yn sicrhau fod cyllidebau ysgolion yn ddigonol i gynnwys y pwysau hyn na fedrir ei osgoi.
Pwysau Anghenion Dysgu Ychwanegol
Mae nifer y plant gydag anghenion dysgu ychwanegol yn cynyddu. Mae eu hanghenion yn dod yn fwy cymhleth. Byddwn yn buddsoddi mewn mwy o adnoddau a gweithio gyda’n hysgolion i’w helpu i gyrraedd eu potensial llawn. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n hysgolion a byddwn yn parhau i gefnogi anghenion plant gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Arbedion mewn Cyllidebau Ysgolion Unigol
Bydd y cyngor yn cynyddu cyllidebau ysgolion unigol fel y gallant fforddio’r dyfarniad cyflog a phwysau pensiwn. Caiff cyllid anghenion dysgu ychwanegol mewn cyllidebau ysgol eu gwarchod rhag unrhyw arbedion.
Tîm Buddsoddi mewn Diogelu
Byddwn yn gwarchod ein holl breswylwyr, yn arbennig ein babanod a phlant, pobl ifanc ac oedolion bregus.
Mae newidiadau deddfwriaethol ar gyfer Gwarchod Oedolion a Phlant yn golygu fod angen i ni gynyddu nifer y staff sy’n gweithio i warchod pobl yn ein sir.