Bwriad Cyngor Sir Fynwy yw gweithio’n bositif gyda pherchnogion tir lleol i sicrhau bod unrhyw waith yn addas ac nid yw’n cynyddu’r risg o lifogydd lleol. Mewn achos lle gweithredir gwaith heb ganiatâd, a lle buasai wedi bod angen caniatâd, ni ellir caniatáu gwaith yn ôl-weithredol. Yn yr achosion hyn byddwn fel arfer yn cymryd camau i sicrhau bod y ddyfrffos gyffredinol yn cael ei gosod yn ôl i’r cyflwr yr oedd ynddi o flaen llaw neu fod camau adferol yn cael eu cymryd.
Os ydych yn pryderu am unrhyw waith o fewn dyfrffos gyffredinol yn eich ardal leol, gallwch gysylltu â ni i benderfynu a oes gan y gwaith y caniatâd angenrheidiol. Yn gyffredinol, mabwysiadir meddylfryd gorfodi sy’n seiliedig ar risg lle y gweithredwyd gwaith heb ganiatâd ar ddyfrffosydd cyffredinol.