Ffurflen Cais am Ganiatâd Dyfrffos Gyffredinol
Nodiadau Canllaw ar gyfer Caniatâd Dyfrffos Gyffredinol
Gellir darganfod gwybodaeth ynglŷn â sut i gwblhau’r ffurflen gais yn y Nodiadau Canllaw. Rhaid cynnwys gwybodaeth ychwanegol ddigonol er mwyn i ni benderfynu addasrwydd eich cynigion. Rhaid i chi ddangos na fydd eich cynigion yn cael effaith niweidiol ar berygl llifogydd neu’r amgylchedd lleol.
Rhaid i chi hefyd cyflwyno ffi ymgeisio, sef £50.00 ar hyn o bryd.
Sut i dalu am eich ffioedd
Pennir eich cais o fewn deufis ar ôl derbyn cais dilys. Mae cais dilys yn cynnwys ffurflen gais sydd wedi’i chwblhau, manylion priodol o’ch cynigion a‘r ffi ymgeisio. Darllenwch y Nodiadau Canllaw sydd ar gael er mwyn sicrhau eich bod wedi cynnwys y wybodaeth briodol i gyd sydd angen ar gyfer dilysu, os gwelwch yn dda.
Gellir cyflwyno ceisiadau a dogfennau priodol naill ai:
- Yn electronig trwy ebost i Flooding@monmouthshire.gov.uk
- Fel copi ysgrifenedig i:
Priffyrdd a Rheoli Llifogydd
Cyngor Sir Fynwy
Neuadd y Sir
Y Rhadyr
Brynbuga
NP15 1GA