Data agored yw data y gall unrhyw un gael mynediad iddo, ei ddefnyddio neu ei rannu.
Mae gan Sir Fynwy ymagwedd ar gyfer Data Agored lle anelwn gyhoeddi setiau data sy’n ddefnyddiol a heb fod yn gyfrinachol mewn fformat data agored.
Rydym eisiau gwybod mwy am y mathau o data y dylem ei gyhoeddi a’r ffyrdd y mae pobl eisiau ei ddefnyddio. Bydd hyn yn gwneud yn siŵr fod ein tudalen Data Agored mor ddefnyddiol ag sydd modd. Cliciwch yma i rannu eich barn
Ymwelwch â’r Sefydliad Data Agored i ganfod mwy am Data Agored.
Setiau Data Sir Fynwy
Rydym yn datblygu ein hymagwedd at data agored. Ni fydd gan bob maes gwasanaeth data agored ar gael:
Os na nodir fel arall caiff popeth ar y wefan hon ei ryddhau dan Drwydded Llywodraeth Agored sy’n golygu y gallwch ailddefnyddio a’i atgynhyrchu yn rhad ac am ddim, gyda dim ond ychydig o amodau.
Gallwch ddefnyddio ein data i greu apiau neu i gysylltu’n uniongyrchol gyda’ch gwefannau.
Data am Sir Fynwy a gyhoeddwyd gan sefydliadau eraill
Mae sefydliadau eraill yn cyhoeddi data am Sir Fynwy. Lle mae hyn yn cyfeirio at feysydd gwasanaeth penodol rydym wedi rhoi dolenni i hyn dan ffynonellau eraill o data ym mhob adran unigol. Rhai ffynonellau eraill yn gysylltiedig ag ystod o wasanaethau yw:
- Info Base Cymru – Data ar Gymru yn cyfeirio at amrywiaeth o themâu, yn cynnwys perfformiad awdurdodau lleol
- Manylion ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a wnaed drwy What do they know
- Mae llawer o wybodaeth ar sut mae Sir Fynwy yn cymharu gyda rhannau eraill o Gymru ar gael yn StatsWales
- MaeLle yn darparu data a gwybodaeth ar sbectrwm eang o bynciau yng Nghymru, ond yn bennaf am yr amgylchedd