Skip to Main Content

Sut i helpu eich plentyn o’r cychwyn cyntaf?

Hyd yn oed yn ystod beichiogrwydd, gall babanod glywed lleisiau a cherddoriaeth. Felly, os ydych yn awyddus i fagu eich plentyn yn ddwyieithog, dyma’r amser i ddechrau siarad a chanu yn Gymraeg i’ch plentyn.

I gael gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru am y Gymraeg i rieni, ewch i llyw.cymru/cymraeg-i-blant

I gael gwybodaeth ar ddysgu Cymraeg fel oedolyn, ewch i dysgucymraeg.cymru.

Cyw

Cyw yw rhaglenni, apiau, sioeau byw ac ati S4C ar gyfer plant. Mae Cyw a’i gyfeillion ar gael ar amrywiaeth o lwyfannau, i gyd am ddim.

Teledu

Edrychwch ar raglenni Cyw gyda’ch plentyn bob bore ar S4C, gan gynnwys Patrol Pawennau, Bing, Deian a Loli, Peppa a ffefrynnau eraill yn Gymraeg.

Nid oes rhaid i blant siarad Cymraeg er mwyn mwynhau cartwnau Cymraeg.

Lawrlwythwch S4C Clic neu ewch i cyw.cymru i edrych ar raglenni Cyw ar unrhyw amser.

Apiau hwyl ac addysgiadol i blant bach

Bydd yr apiau cyfleus yma’n helpu.

Cyw – Chwiliwch am ‘Cyw’

Cynlluniwyd apiau Cyw i blant bach eu defnyddio ac maent yn rhoi sylw i Cyw a’i ffrindiau.

Magi Ann – Chwiliwch am ‘Magi Ann’

Hwyl wrth ddysgu darllen gyda straeon poblogaidd Mari Ann. Gweld a chlywed y straeon yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Selog – Chwiliwch am ‘Selog’ –

Gwrando ar ganeuon a straeon yn Gymraeg. Mae llyfrau Alun yr Arth ar gael yn llyfrgelloedd Sir Fynwy.

Adnoddau Cymraeg i’w prynu:

meithrin.cymru/siop-dewin-a-doti

www.gwales.com

Mae gan lyfrgelloedd Sir Fynwy lyfrau Cymraeg a dwyieithog ar gyfer plant o bob oed.

Cyfeiriadur

Mudiad Meithrin

Mae’r Mudiad Meithrin yn cefnogi plant ifanc i gael mynediad i wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gwefan: www.meithrin.cymru

E-bost: post@meithrin.cymru

Ffôn: 01970 639639

Twitter: @mudiadmeithrin

Facebook: Mudiad Meithrin

Cymraeg i Blant

Cynllun cenedlaethol sy’n cefnogi rhieni i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’u plant drwy ddewis gofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg. Mae’r cynllun ei reoli gan y
Mudiad Meithrin.

Grwpiau cefnogi lleol am ddim ar gyfer rhieni: tylino baban, yoga baban, sesiynau stori yn y Gymraeg a digwyddiadau misol i’r teulu sy’n gyfle ychwanegol i gymdeithasu yn Gymraeg.

Gwefan: meithrin.cymru/cymraeg-i-blant

E-bost: cymraegiblant@meithrin.cymru

Ffôn: 01970 639639

Twitter: @Cymraegforkids

Facebook: Cymraeg i Blant Mynwy / Monmouthshire

Cymraeg Llywodraeth Cymru

Gwefan gyda gwybodaeth ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â’r Gymraeg a phorth i safleoedd eraill – dod o hyd i ddigwyddiadau, ap yr wythnos, cyrsiau Cymraeg i Oedolion a llawer mwy, yn rhoi cyfle ychwanegol i gymdeithasu yn Gymraeg.

Gwefan: www.llyw.cymru/cymraeg-i-blant

Twitter: @Cymraeg

Cymraeg i Oedolion Coleg Gwent

Mae gan bobl wahanol resymau dros ddewis dysgu Cymraeg – i gefnogi plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg, efallai, neu i ehangu cyfleoedd swydd. Cynhelir ystod eang o gyrsiau Cymraeg ar draws Gwent, gyda rhywbeth i bawb. Chwiliwch ar-lein neu ffoniwch ni.

Gwefan: dysgucymraeg.cymru

Gwefan: learnwelsh.cymru

E-bost: welsh@coleggwent.ac.uk

Ffôn: 01495 333710

Twitter: @learncymraeg

Facebook: Cymraeg i Oedolion Gwent Welsh for Adults

Yr Urdd

Mae’r Urdd yn fudiad ieuenctid sy’n cynnig cyfleoedd a digwyddiadau i holl bobl ifanc Cymru (hyd at 25 oed). Mae’n sefydliad bywiog sy’n rhan o fywyd plant sy’n mynychu addysg cyfrwng Cymraeg, drwy chwaraeon, cerddoriaeth, yr Eisteddfod, canolfannau preswyl a grwpiau ieuenctid.

Gwefan: urdd.cymru

E-bost: helo@urdd.org

Ffôn: 01495 752589

Twitter: @urdd

Facebook: Urdd Gobaith Cymru

Rhieni dros Addysg Gymraeg (RHAG)

Mae’n bodoli i gefnogi a hyrwyddo addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ledled Cymru ac i sicrhau cyfle cyfartal i’r rhai sy’n dymuno i’w plant gael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gwefan: rhag.cymru

E-bost: post@rhag.cymru

Twitter: @RhAG1

Facebook: Rhieni Dros Addysg Gymraeg

Menter Blaenau Gwent, Torfaen a Sir Fynwy

Mae Menter Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy yn fenter a gyllidir gan Lywodraeth Cymru sy’n datblygu a’n hyrwyddo cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cymunedau ar draws y tair sir. Mae’r gweithgareddau yn cynnwys boreau coffi, gigs, dyddiau hwyl, clybiau ar ôl ysgol a chynlluniau chwarae.

Gwefan: menterbgtm.cymru

E-bost: gwybodaeth@menterbgtm.cymru

Ffôn: 01495 755 861

Twitter: @menterbgtm.org

Facebook: Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Fynwy

Er mwyn derbyn gwybodaeth am ofal plant ac addysg, ewch i dudalen y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd – monfis.org.uk