Skip to Main Content

Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Craffu yn cael eu ffrydio’n fyw, a bydd y ddolen ar gael ar dudalen cyfarfod gwefan Cyngor Sir Fynwy. Mae’r Pwyllgor Craffu yn croesawu cyfranogiad y cyhoedd yn ei waith oherwydd ei fod yn sicrhau bod y craffu yn ystyrlon. Anogir y cyhoedd i gymryd rhan drwy awgrymu eitemau i’w craffu neu drwy gynnig barn ar bwnc penodol ar yr agenda.

Gall y cyhoedd fynychu cyfarfod i siarad â’r Pwyllgor o dan y ‘Fforwm Agored i’r Cyhoedd’ ar yr agenda. Mae faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad yn ôl disgresiwn y Cadeirydd, ond er mwyn ein galluogi i neilltuo amser ar gyfer nifer o siaradwyr, rydym yn gofyn i gyfraniadau beidio â bod yn hwy na 3 munud.

Fel arall, os na allwch fod yn bresennol, gallwch gyflwyno sylwadau ysgrifenedig (uchafswm o 500 gair), neu gynrychioliad sain neu fideo (uchafswm o 4 munud). Os bydd cyfanswm y cynrychiolaethau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o’r rhain yn seiliedig ar thema yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i Gynghorwyr cyn y cyfarfod.

Os hoffech siarad o dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu neu os hoffech gyflwyno sylwadau, cysylltwch â’r tîm craffu 3 diwrnod gwaith cyn y cyfarfod drwy e-bostio Craffu@monmouthshire.gov.uk