Yn gyffredinol, gall gwaith ddechrau ar y safle ar ôl i’r caniatâd cynllunio gael ei roddi, fodd bynnag, gall yr hysbysiad penderfynu gynnwys nifer o amodau datblygu.
Gall yr amodau hyn gynnwys darparu gwybodaeth ychwanegol cyn y gall y gwaith ddechrau. Byddai angen i’r wybodaeth hon gael ei rhyddhau cyn i unrhyw waith ddechrau ar y safle. Er mwyn cyflawni’r amodau hyn mae angen i chi wneud cais ffurfiol i’r Cyngor ei ystyried. Mae gwybodaeth ar sut i wneud cais rhyddhau amod ar gael yma: –
Ar ôl i’r amodau hyn gael eu cyflawni, bydd y Cyngor yn cyhoeddi hysbysiad penderfyniad diwygiedig a fydd yn amlinellu’r dyddiad y cafodd yr amod hwn ei ryddhau ac yn amlinellu rhif y cais cyfatebol.
Cyn i’r gwaith ddechrau ar y safle efallai y bydd caniatadau eraill y tu allan i’r cynllunio y bydd angen i chi eu derbyn fel Rheoliadau Rheoli Adeiladu neu’r angen am drwydded ystlumod gan Gyfoeth Naturiol Cymru (Dolenni)