Rydym ni wedi llunio rhai awgrymiadau parcio ar eich cyfer er mwyn osgoi cael rhybudd tâl cosb:
- Gwiriwch y llinellau ar y ffyrdd a, lle bo’n berthnasol, yr arwyddion ar ochr y ffordd a gwnewch yn siŵr eich bod wedi parcio o fewn marciau’r lleoedd parcio. Os oes marciau ffordd y tu allan i’r lle parcio, nid oes angen arwydd bob amser.
- Gwnewch yn siŵr nad yw olwynion eich cerbyd yn gorffwys ar farciau melyn, marciau â llinellau, cyrbau wedi’u gostwng neu unrhyw gyfyngiad arall.
- Wrth ddefnyddio maes parcio, darllenwch yr arwyddion a phrynwch y tocyn priodol.
- Peidiwch ag aros yn fwy nag a ganiateir gan yr arwyddion neu’r tocyn rydych wedi’i brynu
- Peidiwch â pharcio dwbl na rhwystro mynedfeydd i eiddo.
- Peidiwch â pharcio ar balmentydd. Mae cyfyngiadau parcio, megis llinellau melyn, yn cynnwys palmentydd. Hyd yn oed os nad yw’ch olwynion ar y gerbytffordd byddwch yn dal i dorri’r cyfyngiadau.
- Peidiwch â pharcio ar groesfannau cerddwyr neu ar y marciau igam-ogam gwyn ger y croesfannau. Mae hyn yn cynnwys gadael teithwyr i lawr neu eu casglu.
- Peidiwch â pharcio ar farciau cadw’n glir ysgolion neu ar y marciau igam-ogam melyn yn agos at ysgolion. Mae hyn yn cynnwys gadael teithwyr i lawr neu eu casglu.
- Mae cyfyngiadau ac amodau mewn grym bob amser oni nodir ar arwyddion lleol.
- Ni fydd ein swyddogion gorfodi sifil yn mynd i mewn i unrhyw adeilad i roi cyngor cyn rhoi rhybudd tâl cosb. Os ydych gyda’ch cerbyd rhoddir amser i chi gywiro’ch parcio oni bai eich bod eisoes wedi cael eich cynghori neu wedi parcio ar farciau igam-ogam.
- Unwaith bydd ein swyddog gorfodi sifil wedi cychwyn rhoi rhybudd tâl cosb, ni all ei ganslo na newid unrhyw fanylion. Os ydych yn credu eich bod wedi derbyn rhybudd tâl cosb ar gam, dylech ddilyn y cyfarwyddiadau ar gefn y rhybudd.
- Lle mae llinellau melyn yn caniatáu aros neu ddadlwytho, ni ddylai’ch cerbyd fod wedi’i barcio mewn modd sy’n achosi perygl neu rwystr.
- Os ydych yn ddefnyddiwr bathodyn glas, gwiriwch eich llawlyfr i sicrhau eich bod yn deall yn llawn y rheolau ynghylch defnyddio’r bathodyn.
- Peidiwch â pharcio lle mae cwrbyn cerddwyr wedi’i ostwng yn arwain o un ochr y ffordd i’r llall, gyda neu heb balmant botymog. Maent yno er budd pobl sy’n analluog i groesi’r heol hebddynt ac i gynorthwyo rhieni gyda phramiau neu gadeiriau gwthio.
- Nid oes angen llinellau dot gwyn o gwmpas lleoedd parcio ar-y-stryd bellach, hyd yn oed pan fydd cyfyngiad.