Dyma’r gwirionedd y tu ôl i rai mythau parcio poblogaidd:
- Nid yw’n swyddogion gorfodi yn cael taliadau bonws am roi tocynnau. Telir cyflog iddynt.
- Mae llinellau dwbl melyn gyda thiciau cwrbyn dwbl yn golygu dim aros ar unrhyw adeg. Gallwch, fodd bynnag, aros i adael i deithwyr ddod i fewn neu fynd allan o’ch cerbyd. Mae hyn yn cynnwys bysiau.
- Nid yw bathodynnau glas yn caniatáu i’r defnyddiwr barcio mewn man llwytho neu’n agos i gyffordd.
- Wrth barcio mewn man llwytho mae’n rhaid i chi fod wrthi’n llwytho. Os oes yn rhaid i chi osod eitemau heibio, mae’n rhaid i chi symud eich cerbyd i le parcio cyfreithlon.
- Gallwch dderbyn rhybudd tâl cosb yn y nos, ar ddydd Sul ac ar wyliau banc.
- Gall defnyddwyr bathodynnau glas barcio hyd at dair awr ar linell felen sengl neu ddwbl lle nad oes ticiau cwrbyn yn weithredol.
- Mae’n rhaid arddangos cloc parcio yn nodi union amser cyrraedd y fan.
- Ni allwch barcio’n anghyfreithlon i siarad ar y ffôn, mynd i’r toiled, picio i’r banc neu brynu’ch cinio..
- Mae’n swyddogion gorfodi sifil yn cofnodi holl gofrestriadau cerbydau pan fyddant yn gwirio maes parcio â therfyn amser. Byddant yn rhoi dirwy yn unig os yw’ch cerbyd yn torri cyfyngiadau amser. .
- Ni roddwyd unrhyw gyfyngiadau newydd yn eu lle pan wnaethom gymryd drosodd orfodi sifil ar barcio oddi wrth yr heddlu.