Mewn tywydd gwael mae nifer o opsiynau sydd ar gael i helpu pobl sy’n cysgu ar y stryd.
Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio gyda nifer o sefydliadau ac asiantaethau i gefnogi pobl sy’n ddigartref ac yn cysgu mas yn Sir Fynwy.
Os gwyddoch am rywun a all fod yn cysgu ar y stryd, cysylltwch â Chyngor Sir Fynwy os gwelwch yn dda i adael i ni wybod lle maen nhw a’n helpu i gydlynu ymateb. Gallwch ein hysbysu yn y ffyrdd dilynol:
- Ffonio’r Cyngor ar 01633 644644.
- Cysylltu â’r Tîm Opsiynau Tai drwy unrhyw un o’r Hybiau Cymunedol.
- Rhoi adroddiad am yr wybodaeth drwy wefan neu ap Street Link.
Byddwn wedyn yn cydlynu ymateb gyda’n partneriaid cefnogi.
Gall fod amrywiaeth o resymau pam fod rhywun yn ddigartref ac yn cysgu ar y stryd, gofynnwn i chi barchu eu gofod a phreifatrwydd ac osgoi rhoi gwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, gan y gall hyn yn anfwriadol eu gwneud yn agored i risgiau.
Er y croesewir eich cefnogaeth, gofynnir i chi fod yn ymwybodol o’ch diogelwch eich hun a diogelwch y person sy’n cysgu ar y stryd.