Skip to Main Content
1. Nid yw’n gadael i fi gofrestru ar Fy Sir Fynwy gyda fy nghyfeiriad e-bost

Os yw’r neges camgymeriad yn dweud ‘Mae’r cyfeiriad e-bost yma yn bodoli eisoes’, efallai eich bod eisoes wedi cofrestru gyda ni neu fod y timau gwasanaethau cwsmeriaid wedi eich cofrestru. I ail-osod eich cyfrinair gyda’r cyfeiriad e-bost hwnnw, cliciwch ar y botwm ‘Anghofio Cyfrinair’ dan y sgrin mewngofnodi.

2. Sut y gallaf awgrymu gwelliannau ar gyfer Fy Sir Fynwy?

Mae gennym banel defnyddiwr ac os hoffai unrhyw un ymuno a helpu gyda ffurflenni y dyfodol yna cysylltwch â MCSsystemsupport@monmouthshire.gov.uk neu lenwi’r ffurflen adborth yma.

3. Nid yw’r ddolen a gadwais ar gyfer Fy Sir Fynwy yn gweithio, a allwch fy helpu?

Os defnyddiwch y ddolen ddilynol http://www.monmouthshire.mycouncilservices.com aiff hyn â chi i’r dudalen gofrestru.

4. Nid wyf eisiau gorfod dal i fewngofnodi drwy eich gwefan, pam nad oes gennych ddewis i mi fod wedi aros wedi mewngofnodi yn yr un ffordd â gwefannau eraill?

Os ydych yn lanlwytho’r ap yma ar eich dyfais drwy eich stôr briodol, yna bydd yn eich cadw wedi mewngofnodi cyn belled â’ch bod yn cadw’r ap yn agored.

5. Rwyf eisiau gorffen llenwi ffurflen yn nes ymlaen ond rwyf hanner ffordd drwyddi. A allaf wneud hyn?

Gallwch:

I gadw’r ffurflen i’w gorffen yn nes ymlaen, cliciwch Porth Gwe = Cadw (dim canslo) y ffurflen neu ap Symudol = cliciwch ar y botwm Cadw ar gyfer nes ymlaen a ddangosir ar ganol y dudalen rydych arni o fewn y ffurflen.

I adalw a pharhau i lenwi/cyflwyno, ewch i Fy Nghyfrif, Drafft Adroddiad.

6. Beth ddylech eich wneud os ydych yn cael problem gyda’r cyfrinair yr ydych wedi ei gadw pan fyddwch yn mewngofnodi i Fy Sir Fynwy?

Gall hyn fod yn broblem gyda’ch cache (ar eich porwr). I glirio eich cache, ewch i gosodiadau ar eich porwr, yn defnyddio preifatrwydd, chwilio a gwasanaethau, a chlirio data pori.

Mae fy nyfais yn rhoi’r cyfrinair a gadwais fel rhes o ddotiau yn y blwch (gweler y llun isod) a phan fyddaf yn pwyso’r botwm mewngofnodi, rwyf yn cael neges camgymeriad ‘Invalid Login Credentials’.

Mae hyn oherwydd fod nodwedd diogelwch ar ap Fy Sir Fynwy yn amgodio y cyfrinair a gadwyd ar eich dyfais, mewn geiriau eraill mae’n newid y cyfrinair i lawer o wahanol lythrennau fel nad yw’n gweithio pan fyddwch yn ei ddefnyddio eto.

I atal y cyfrinair rhag cael ei amgodio:

Ewch i’r gosodiadau dyfais a newid y cyfrinair wedi ei amgodio i’ch cyfrinair gwreiddiol a chywir, yna gadw’r newidiadau.

Pan fyddwch yn mewngofnodi i Fy Sir Fynwy yn y dyfodol, peidiwch dewis diweddaru eich cyfrinair pan fydd y porwr yn cynnig yr opsiwn gan y bydd hyn amgodio’r cyfrinair a ni fydd yn gweithio yn y mewngofnodi nesaf.

7. Rwyf wedi creu ail gyfrif Fy Sir Fynwy drwy gamgymeriad, beth allaf i wneud?

Os ffoniwch y ganolfan cyswllt ar 01633644644 a siarad gydag aelod o’r staff, byddant yn gallu uno’r cyfrifon.

8. Sut mae defnyddio’r nodwedd dewis lleoliad/map yn Fy Sir Fynwy?

Pan gaiff y map ei ddangos, os daliwch eich bys i lawr ar ran goch y pin dylai godi ychydig. Gallwch wedyn lusgo’r pin i’r lleoliad cywir cyfagos ac yna godi eich bys oddi ar y sgrin i’w ollwng yn ei le.

Os ydych yn canfod y dull uchod yn anodd, gallai’r opsiwn Dewis Rhwydd fod yn ddull da arall. I ddefnyddio hyn, gwnewch yn siŵr fod y map yn cael ei arddangos ac yna glicio ar y botwm dewislen yng nghornel chwith gyntaf y sgrin (tair llinell). Byddwch wedyn yn cael opsiynau erial i binio lleoliadau, un ohonynt yr opsiwn Dewis Rhwydd. Unwaith y byddwch wedi ei ddewis, gallwch symud y map o amgylch i ganfod y lleoliad cywir, a bydd y lleoliad yn newid yn awtomatig yn dibynnu ar lle mae’r symbol ‘targed’ ar y map.

Mae hefyd fotwm gosodiadau/cog yn ymyl ochr de waelod y sgrin i ddangos gwahanol haenau map e.e. golwg Arferol, Ategol neu Hybrid. Gall y rhain weithiau fod yn defnyddiol pan fyddwch yn edrych am leoliad, ond gall yr opsiynau Ategol neu Hybrid gymryd mwy o amser i arddangos, yn dibynnu ar ba mor gryf yw eich signal Rhyngrwyd.

9. Sut mae ychwanegu mwy o wybodaeth, cwrso neu ateb sylw ar fy Nghais am Wasanaeth?

Os oes gennym gyfrif Fy Sir Fynwy ac angen rhoi mwy o wybodaeth am eich cais am wasanaeth, gallwch wneud hyn yn gyntaf drwy fewngofnodi i’ch cyfrif. Ar ôl hyn, dewiswch Fy Nghyfrif ac wedyn Fy Adroddiadau. Yna cliciwch ar y Cais Gwasanaeth perthnasol a gallwch weld y statws cyfredol neu wirio’r adran nodiadau ar gyfer unrhyw ddiweddariad pellach a allai fod wedi eu hychwanegu. Oddi yma gallwch hefyd ychwanegu eich nodyn ei hun a gaiff ei gyfeirio at y tîm perthnasol.

10. Pam nad wyf wedi cael e-bost yn cadarnhau ar ôl i mi dalu am Wastraff Gwyrdd Gardd?

Efallai ei fod wedi mynd i’ch ffolder llanastr, felly edrychwch yn y negeseuon e-bost yma yn gyntaf. Byddem hefyd yn awgrymu eich bod yn gwirio gyda’ch banc i wneud yn siŵr fod y taliad wedi mynd trwodd a chysylltu â ni ar  01633644644 os nad ydych wedi cael e-bost yn cadarnhau eich bod wedi gwneud taliad.

11. A allaf dalu ar ran rhywun arall?

Gallwch. Gwnewch yn siŵr mai’r cyfeiriad cyflenwi yw’r cyfeiriad yr hoffech i’r Gwastraff Gwyrdd Gardd gael ei gasglu ohono.

12. Rwyf wedi derbyn neges methu derbyn tâl, beth ddylwn i wneud?

Gwiriwch os ydych hefyd wedi cael neges e-bost yn cadarnhau derbyn taliad. Os ydych wedi derbyn cadarnhad, yna cafodd eich taliad ei dderbyn.

Os nad ydych yn derbyn e-bost yn cadarnhau, gallwch naill ai:.

1) Ailgeisio talu ar-lein.
2) Cysylltu â ni ar 01633 644644 i gymryd eich taliad dros y ffôn.

 3) Mynd i un o’n Hybiau Cymunedol yn y Fenni, Trefynwy, Cas-gwent, Cil-y-coed neu Brynbuga i wneud eich taliad.