Skip to Main Content

Y Cynllun ‘Matchmaker’

Mae’r cynllun yn gweithio drwy ‘baru’ cartrefi gwag i’w gwerthu gyda phrynwyr.

Mae gan y cyngor ddwy restr; un o brynwyr posibl ac un o berchnogion sydd â diddordeb mewn gwerthu eu heiddo gwag. Ceir gwybodaeth sy’n ymwneud â’r lleoliad, y math o eiddo ac amcangyfrif y  gwerth prynu.

Gall prynwyr sydd â diddordeb ymuno â’r cynllun a chysylltir â hwy pan fydd eiddo gwag, sy’n cyfateb i’w gofynion, yn dod yn rhan o’r cynllun.

Sut i Ymuno

Perchennog eiddo gwag

Oes gennych eiddo ond yn methu â buddsoddi mewn gwaith atgyweirio neu adnewyddu? Rhestrwch am ddim felly a byddwn yn ei ddangos i restr o fuddsoddwyr a allai o bosibl ei brynu.

I ymuno, cwblhewch ein ffurflen gofrestru perchnogion eiddo gwag yma.

Prynu / Datblygu

Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu cartref gwag, gall y Cynllun ‘Matchmaker’ eich helpu i ddod o hyd i’r eiddo sy’n iawn i chi.  Rhowch wybod i ni os oes eiddo gwag penodol y mae gennych ddiddordeb mewn prynu neu fuddsoddi ynddo – gyda’ch caniatâd, gallwn drosglwyddo’ch manylion cyswllt i’r perchennog. Byddwn hefyd yn edrych am eiddo ar draws y sir a phan fyddwn yn dod o hyd iddynt byddwn wedyn yn eich hysbysu i roi’r cyfle i chi weld os ydych eisiau buddsoddi.

I gofrestru i dderbyn gwybodaeth am eiddo gwag cwblhewch ein Ffurflen Gofrestru Prynwr/Datblygwr yma.

At ddibenion cyfrinachedd, ni chyhoeddir unrhyw fanylion personol ar y wefan ac mae unrhyw drafodaethau a/neu werthiannau yn digwydd yn uniongyrchol rhwng y gwerthwr a’r prynwr.

Ni fydd y Cyngor yn ceisio gwirio cywirdeb unrhyw wybodaeth am eiddo a ddarparwyd ac ni fydd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw anghywirdebau neu hepgoriadau.

Ar ôl ei gyflwyno, nid oes gan y Cyngor unrhyw ran mewn trafodaethau na throsglwyddo. Dylech gael cyngor cyfreithiol annibynnol ar brynu/gwerthu eiddo er mwyn sicrhau bod y gwiriadau a’r mesurau diogelwch angenrheidiol yn cael eu dilyn er mwyn diogelu eich buddsoddiad. Mae hyn yn cynnwys cadarnhau bod yr hawliau angenrheidiol o ran y rheoliadau cynllunio ac adeiladu wedi’u dyfarnu.