Mae Cyngor Sir Fynwy am weithio gyda pherchnogion eiddo gwag i’w defnyddio unwaith eto. Credwn y bydd ailddefnyddio eiddo gwag o fudd i’r gymuned drwy gyfrannu at gynnydd yn y cyflenwad a’r dewis o dai, gan ddiogelu amgylchedd a ffyniant economaidd y sir ar yr un pryd.
Ein nod yw dod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd drwy weithio gyda pherchnogion drwy:-
Darparu arweiniad a chefnogaeth;
Hyrwyddo’r opsiynau sydd ar gael;
Cymorth Ymarferol.
Fodd bynnag, pan fydd perchnogion yn gwrthod mynd i’r afael â’u heiddo gwag, bydd y Cyngor, fel opsiwn terfynol, yn defnyddio ei bwerau gorfodi.
Mae’r tudalennau canlynol yn cynnig cyngor ac opsiynau wrth ymdrin ag eiddo gwag: